wel ma pwynt gyda ti yn fanne. Dwi yn 17 ac dal ddim yn hollol rhugl de nac yn gyfforddus iawn yn siarad Saesneg. Ond oes na bobl sydd yn byw eu bywyd i gyd trwy'r Gymraeg yn unig heb fedru dim jest ar y Saesneg?
"a thrwy darth yr oriau du, ein heniaith sy'n tywynnu"
dau bry a ddywedodd:wel ma pwynt gyda ti yn fanne. Dwi yn 17 ac dal ddim yn hollol rhugl de
Wyt ti? Dwi'n gwbod o ffaith nifer mawr iawn o bobol sy'n llawer gwell a mwy cyfforddus yn mynegi'u hunain yn y Gymraeg, ond dydi hynny ddim yn golygu nad ydynt yn rhugl yn y Saesneg. Os ti ddim yn rhugl, does ddim modd gwylio rhaglenni teledu Saesneg i ddeud y gwir nagoes?
Ond rhywbeth goddrychol (subjective) iawn ydi rhugulrwydd... Mi roedd fy nhafod i'nhynn yn fy moch uchod...ond mae safon Saesneg Cymry Cymraeg yn amrywiol iawn, a hyd y gwn i, s'dim ffordd o fesur rhugulrwydd.
Ia, dwi'n gwbod. Ond dydi bod yn falch o'ch diffyg sgiliau Saesneg ddim yn beth i fod yn browd ohono yn fy marn i. Be ddylem wir fod yn falch ynddi ydi fod gennym sgiliau rhagorol mewn o leiaf dwy iaith, a pheidio bwydo pobol gwrth Gymraeg gyda abwyd i ddadlau yn erbyn addysg Gymraeg a.y.b.
Ddigwyddodd 'na rywbeth tebyg i mi - ges i fy magu yn hollol ddi-Saesneg (Dad yn troi'r swn i lawr ar Fireman Sam hyn yn oed ) ond erbyn hyn dydw i ddim yn siwr os ydi hynny'n beth da. Yn bendant mi ddaru o'n ysgogi fi i gymryd diddordeb mewn dim ond pethau Cymraeg, gan gyfoethogi'n iaith i, dwi'n siwr. Dwi'n cofio, pan