Cymry di-saesneg

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymry di-saesneg

Postiogan dau bry » Iau 22 Rhag 2005 1:01 pm

oes na siaradwyr Cymraeg (ac eithro y rhai mewn gwledydd fel patagonia) sydd yn methu siarad Saesneg :?:
"a thrwy darth yr oriau du, ein heniaith sy'n tywynnu"

Delwedd
dau bry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2005 11:03 pm
Lleoliad: Lerpwl / Dyffryn Conwy

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Iau 22 Rhag 2005 1:03 pm

Siwr iawn. O'n i ddim yn gallu siarad Saesneg tan o'n i'n 7, a ddim yn rhugl tan o'n i tua 12...rhai'n dal i ddeud nad ydw i! :wps: :lol:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dau bry » Iau 22 Rhag 2005 1:13 pm

wel ma pwynt gyda ti yn fanne. Dwi yn 17 ac dal ddim yn hollol rhugl de nac yn gyfforddus iawn yn siarad Saesneg. Ond oes na bobl sydd yn byw eu bywyd i gyd trwy'r Gymraeg yn unig heb fedru dim jest ar y Saesneg?
"a thrwy darth yr oriau du, ein heniaith sy'n tywynnu"

Delwedd
dau bry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2005 11:03 pm
Lleoliad: Lerpwl / Dyffryn Conwy

Postiogan garynysmon » Iau 22 Rhag 2005 1:15 pm

dau bry a ddywedodd:wel ma pwynt gyda ti yn fanne. Dwi yn 17 ac dal ddim yn hollol rhugl de


Wyt ti? Dwi'n gwbod o ffaith nifer mawr iawn o bobol sy'n llawer gwell a mwy cyfforddus yn mynegi'u hunain yn y Gymraeg, ond dydi hynny ddim yn golygu nad ydynt yn rhugl yn y Saesneg. Os ti ddim yn rhugl, does ddim modd gwylio rhaglenni teledu Saesneg i ddeud y gwir nagoes?
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Iau 22 Rhag 2005 1:20 pm

Ond rhywbeth goddrychol (subjective) iawn ydi rhugulrwydd... Mi roedd fy nhafod i'nhynn yn fy moch uchod...ond mae safon Saesneg Cymry Cymraeg yn amrywiol iawn, a hyd y gwn i, s'dim ffordd o fesur rhugulrwydd.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan garynysmon » Iau 22 Rhag 2005 1:33 pm

Ia, dwi'n gwbod. Ond dydi bod yn falch o'ch diffyg sgiliau Saesneg ddim yn beth i fod yn browd ohono yn fy marn i. Be ddylem wir fod yn falch ynddi ydi fod gennym sgiliau rhagorol mewn o leiaf dwy iaith, a pheidio bwydo pobol gwrth Gymraeg gyda abwyd i ddadlau yn erbyn addysg Gymraeg a.y.b.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Iau 22 Rhag 2005 1:36 pm

Dwi ddim yn anghytuno.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 22 Rhag 2005 4:13 pm

Ddigwyddodd 'na rywbeth tebyg i mi - ges i fy magu yn hollol ddi-Saesneg (Dad yn troi'r swn i lawr ar Fireman Sam hyn yn oed :lol: ) ond erbyn hyn dydw i ddim yn siwr os ydi hynny'n beth da. Yn bendant mi ddaru o'n ysgogi fi i gymryd diddordeb mewn dim ond pethau Cymraeg, gan gyfoethogi'n iaith i, dwi'n siwr. Dwi'n cofio, pan
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan dau bry » Iau 22 Rhag 2005 4:25 pm

Ddim o gwbwl. Ystyr rhugl ydi medru siarad yr iaith yn gyfforddus, nid medru ei dallt hi.


tueddu i gytuno
"a thrwy darth yr oriau du, ein heniaith sy'n tywynnu"

Delwedd
dau bry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2005 11:03 pm
Lleoliad: Lerpwl / Dyffryn Conwy


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai