Tudalen 1 o 7
Sut acen oes gennoch chi ?
Postiwyd:
Gwe 27 Ion 2006 10:30 pm
gan caws_llyffant
Mae gen i acen 'public school' yn Saesneg , a acan Beddgelert pan dwi'n siarad Cymraeg .
A chithau ?
Postiwyd:
Gwe 27 Ion 2006 10:36 pm
gan Dewi Bins
Acen Port de, a saesneg.................................Dim syniad
Postiwyd:
Gwe 27 Ion 2006 10:51 pm
gan Ioan_Gwil
siarad saesneg ychydig yn ffarmwraidd
gen i acen unigryw dwin meddwl, acen porthmadog efo rhai geiriau o cofi-land a blaena ond dim yn gryf iawn.
Porthmadog yn bennaf oll
Postiwyd:
Gwe 27 Ion 2006 10:55 pm
gan gethin_aj
Wel, yn Inglish, dwi'n cael nifer o adroddiadau gan wahanol bobl- ma rhai pobl yn dweud fod gen i acen gryf (amlwg ddim yn wir) rhai yn dweud nad oes gen i un o gwbl, a rhai yn dweud fod gen i lilt fach gymreig- yn bersonol, dwi'n meddwl mai jyst lilt bach ond dwi ddim n gallu'i glywed- i mi, dwi'n swnio'n eitha seisnig.
Yn Welsh - dwi'n dafodieithol rwystredig (diallectally frustrated os hoffech gyfieithiad o'm term newydd) Ma Dad o Lanfyllin, ma Mam o'r cymoedd ond gan iddi ddysgu'r Gymraeg ac yna cyfarfod a Dad yn fuan wedi/yn ystod bod yn y coleg yn neud hanner ei gradd yn y Gymraeg, ma hi di codi ychydig o acen Dad i fyny. A wedyn ma'r 14mlynedd o addysg yng Ngaerdydd. Felly wrth siarad efo gwahanol bobl, mae'n newid o hyd - ar ben fy hun, mae'n raddol mynd yn fwy gogleddol- o bosib achos acen Sir Fon di'r un dwi'n ei glywed fwya ymysg fy ffrindiau sy'n siarad Cymraeg yn y lle ma. Ond dyna ni.
Postiwyd:
Sad 28 Ion 2006 12:47 am
gan Hen Rech Flin
Roeddwn yn arfer siarad Cymraeg efo acen gref Dolgellau pan ddechreuais siarad Cymraeg yn gyntaf. Wedi byw ym mhob parth o Gymru ac ambell ardal yn Lloegr rhyw fath o acen safonol S4C / Radio Cymru sydd gennyf bellach, mae'n debyg.!
Mewn ambell i sefyllfa, megis adrodd pethau a ddysgais yn blentyn bydd acen y canolbarth yn rhan o'r arfer. Efo'r Weddi Apostolaidd, er enghraifft, Y Tēd a'r Mēb ar Ysbryd Glēn sy'n dod allan yn ddiarwybod.
O ran y Saesneg, wrth siarad yn gyffredinol yr wyf yn siarad fel Cymro gogleddol dosbarth gweithiol cyffredin traddodiadol. Yn gyhoeddus, ar y ff
Postiwyd:
Sad 28 Ion 2006 12:53 am
gan Chwadan
Dad o Ddolgella a mam o Lanymawddwy (ond wedi cyfnewid ei hacen Fowddwy am un Dolgella ers hir), felly Dolgella - be bynnag di hynny. Ond sgen i mo'r swn gwledig na'r swn trefaidd da chi'n glywed yn Nolgella chwaith (siawns fod Nwdls a HRF yn gwbod be dwi'n feddwl?!) - fel HRF, mashwr fod Radio Cymru di pylu unrhyw acen blwyfol go iawn fasa gen i.
Saesneg - dibynnu pa amser o'r tymor ydi hi, pa mor ddwl dwi'n teimlo a pha mor gyflym dwi'n siarad. Dwi'n cal hwyl yn gneud aaaaaas hir pan dwi'n siarad efo pobl uchel-ael. Plaaaaarstic ffanstaaaarstic, hehehe.
Postiwyd:
Sad 28 Ion 2006 12:54 am
gan Dai dom da
Acen gweddol cryf wes-cardi, 'wes' being dod o sir benfro (ardal y preseli's fwya) a'r 'cardi' yn dod o aberteifi. Sort of cymysgedd o'r ddau dwin credu. Ond pan dwin sharad yn saesneg dwin gallu dod drosodd i swno bach yn valley esq hambon.
Postiwyd:
Sad 28 Ion 2006 1:07 am
gan gimp gruff rhys
haha dad o brasil ag mam o llanber ag ma guni acen cofi
Postiwyd:
Sad 28 Ion 2006 1:57 am
gan caws_llyffant
Nao falas a lengua do Camoens , Gimp ?
Postiwyd:
Sad 28 Ion 2006 3:54 am
gan Iestyn ap
Acen dwyrain Sir Gaerfyrddin, dim yn gwmws fel "hambon" dim cweit fel "valley's boy", ond rhywbeth yn y canol ychan/byt!