Mae'n acen Gymraeg i'n cychwyn troi at y Sowth wedi mynd ers byw yng Nghaerdydd, the shame!
Mae'n acen Saesneg i, fodd bynnag, yn ridiciwlys. Mae nhad i'n Sais a rhwsut neu'i gilydd, dwi wedi tyfu i siarad mewn llais llawer fwy crand na'i acen Kent o hyd yn oed. Y ffordd hawddaf i mi wneud unrhyw un chwerthin ydi deud rhywbeth yn Saesneg, damia. Dwi'n cal lwcs rhyfedd ar y naw pan dwi'n agor fy ngheg i newid yn syth o Gymraeg i Saesneg.