gan Twyllwr Rhinweddol » Llun 30 Ion 2006 11:07 am
Acen wrth siarad Cymraeg - Gwynedd / Arfon. Does gen i ddim llawer o elfennau tafodieithol y gellid eu priodoli i bentref neu ardal arbennig o fewn Arfon ond prin mae rheiny yn bodoli bellach.
Dwi'n tueddu i fynd dan ddylanwad ieithyddol y bobl dwi'n treulio amser efo nhw, e.e. pan o'n i yn yr ysgol uwchradd roeddwn i wedi mabwysiadu swn Bethesda, pan o'n i yn mynd i Glanaethwy roeddwn i'n siarad yn rhyfedd, a hefyd wedi cael cyfnodau o fenthyg synnau gwahanol ffrindiau ar draws Cymru.
Mae fy acen i wrth siarad Saesneg yn fwy cyfnewidiol byth, a hynny am nad oes gen i wreiddiau yn yr iaith. Swn y Bangor Aye yw'r peth mwyaf annymunol ar y ddaear ma a dwi'n falch dweud mai mond am rhyw ddeufis o fy oes y bum i'n swnio felly pan o'n i'n meddwl ei fod o'n cwl, circa 1996. Am flynyddoedd wedyn, bum yn swnio fel un o gymeriadau Traed Mewn Cyffion yn rowlio pob R ac yn ynganu pob llythyren yn agored a Chymreig iawn. Yn fwy diweddar serch hynny mae fy Saesneg wedi safoni rhywfaint, a dwi'n swnio fel bod gen i daten boeth yn fy ngheg.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.