Tudalen 2 o 7

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 8:52 am
gan Blewyn
Cymraeg - acan dre ia

Susnag - mild north walian with mixed-in sco-tesh, ken ?

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 9:05 am
gan nicdafis
Wlpaneg yn Gymraeg / Chirker aeth i goleg yn Saesneg.

Lot yn dibynnu ar gyda phwy dw i'n siarad. Mae rhaid i mi siarad Cymraeg bach yn ffug yn y dosbarth, i'r dysgwyr fy neall (dechreuwyr dw i'n dysgu, cofiwch) ac mae hyn siwr o fod yn effeithio ar fy Nghymraeg bob dydd. Dw i'n hunanymwybodol bod fy acen i yn lobsgows o Gaerdydd, Llangrannog a'r Waun, ond dyna pwy ydw i, felly beth yw'r ots / be di'r ots? Yr unig ffordd allwn i fod wedi cadw acen "naturiol" oedd aros yn y Waun a siarad Saesneg "Yummer".

Y llynedd, oherwydd i mi fod "gartre" yn fwy (nhad yn s

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 11:07 am
gan Manon
'Dwi'n total howget yn Gymraeg... Cymaint felly fel bod rhywun 'di deud wrtha i a ffrind i mi mewn ryw 'steddfod: "O maigod! Da chi'n siarad fatha Delyth a Bethan o Ibiza! Ibiza!"

Fy Saesneg i yn drwsgwl braidd, fatha bangor lad. But ie, I don't, like, speak many english no, cos y'know, I'm speaking welsh a lot ie.

:wps:

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 11:32 am
gan Socsan
Acen Gymraeg Sir Fonaidd gan amlaf, sy'n llithro i fewn i acen fwy "Radio Cymruaidd" pan yn siarad hefo pobl nad oes ganddynt acen ranbarthol o gwbl.

Acen Saesneg eitha Saesnigaidd o ganlyniad o fyw gyda dwy ferch o Kent am ddwy flynedd yn ystod Coleg... Ond os oes unrhyw aelod o fy nheulu neu ffrindiau Cymreig o gwmpas pan dwi'n siarad Saesneg mae fy acen gogleddol yn dod allan yn ofnadwy yn fy "r" a "t" ayyb.

Pam dwi'n gneud hynny sgwn i? Oes rhywun arall yn meddwl fod yna stigma yn sownd wrth BOB UN acen boed Saesnig neu Gymreig, a bod rhai pobl (yn ymwybodol neu ddim) yn newid y ffordd maent yn siarad er mwyn osgoi hyn? :?

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 12:43 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
dwim efo acen, dwim yn meddwl eniwe, ond wrth siarad saesnaeg yn werddon ma'n troi reit Oirish de, ddat was hOOilerious!, oi cant stand tha guinness! ayyb

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 1:00 pm
gan sian
mmm - acen Pencader yn y b

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 1:01 pm
gan huwwaters
Wel, dwi ddim yn ystyried fy hun gyda acen yn y Gymraeg, ond dwi'n meddwl na acen plaen ogleddol, gyda mymryn o twang gorllewinol ar yr e. Ei ynganu yn wahanol, nid ei wneud yn hir.

Gyda'm Saesneg, dwi heb acen, ond weithiau fedrwch chi glwyed tipyn o'r uchod yn dod trwy gyda rhai geiriau. Dwi di cael deud bod gynnai acen Gogleddol, gan Sais, ond dim mwy na hwne.

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 1:11 pm
gan fela mae
gyda Mam o Dalgarreg - gwaelod Sir Geredigion a nhad yn dod o Botwnnog Pen Llyn a finne di byw ar hud fy oes ym Mhenrhyn-Coch yng ngogledd Ceredigion ond bellach yn y coleg ym Mangor ma'n acen a nhafodiaith i yn newid fel y gwynt.. dibynnu pwy di'r cwmni. Os dwi'n siarad fo Nain dwi'n siarad yn ogleddol gan mod in mddwl sa him yn dallt fi fel arall :?

Wrth siarad Saesneg dwi'n swnio fatha rhywun o dde Cymru - hyn yn od iawn - nath rhywun ddeud tha i ddydd o'r blaen mod in swnio fel Dafydd ar little Britain wrth siarad Saesneg ? ond dw i braidd byth yn siarad Saesneg am ei fod o mor wael... dwi'n stuttran braidd ac yn deud ' Yes ' fel ateb i bob dim neu ar ol ateb weithia a dwi'n swnio fatha reject llwyr

PostioPostiwyd: Sul 29 Ion 2006 6:15 pm
gan gimp gruff rhys
caws_llyffant a ddywedodd:Nao falas a lengua do Camoens , Gimp ?


so um pequeno nao muito

Tomo o voce faz?

Re: Sut acen oes gennoch chi ?

PostioPostiwyd: Sul 29 Ion 2006 7:10 pm
gan TeleriTylwythTeg
caws_llyffant a ddywedodd:Mae gen i acen 'public school' yn Saesneg


Acen Sir Fon/Bangor a twtsh o G'fon ar ol bod yno am ryw ddwy awr.

Waw Gimp.....dodd genai'm syniad bo gen ti iaith arall!