Tudalen 3 o 7

PostioPostiwyd: Sul 29 Ion 2006 7:13 pm
gan TeleriTylwythTeg
Socsan a ddywedodd:Ond os oes unrhyw aelod o fy nheulu neu ffrindiau Cymreig o gwmpas pan dwi'n siarad Saesneg mae fy acen gogleddol yn dod allan yn ofnadwy yn fy "r" a "t" ayyb.


Dwi union rufath!! Dwi'n meddwl bod o wbath i neud efo'r ffaith sa nheulu i'n gelan ar lawr wrth y nghlwad i'n siarad saesneg!

PostioPostiwyd: Sul 29 Ion 2006 8:17 pm
gan eifs
dwi ddim yn gweld fy hun efo acen, r'unig beth sydd yn adnabyddus yw fy mod i yn siarad fel person o'r gogledd. a pan dwi'n siarad saesneg, wel... mae nhafod mewn cwlwm a mae pob math o pethe yn dod allan mewn acen ffarmwr ffowc-aidd

PostioPostiwyd: Sul 29 Ion 2006 10:19 pm
gan Hogyn o Rachub
Acen Gymraeg chwarelyddol (licio'r disgrifiad).

Yn Saesnaeg mae'n acen i'n newid yn uffernol. Mae gen i acen Gog gryf ar y cyfan, ond ers byw yng Nghaerdydd mae 'na gryn dipyn o Hwntw wedi llithro i mewn iddi yn dibynnu lle ydw i a phwy dw i'n siarad a nhw.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 4:37 am
gan Mali
Cwestiwn da caws llyffant, ond mae'n job gwybod ble i gychwyn !
Pan dwi'n siarad Cymraeg , mae gen i gymysgfa o acenion .....acen Dyffryn Clwyd [ lle gefais i ngeni ] a Glan Clwyd [ ysgol], yn ogystal ac acen Sir F

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 8:45 am
gan Socsan
Mali a ddywedodd:Ond y peth mwyaf od ydi y munud dwi'n agor fy nheg i siarad Saesneg, mae pawb yn meddwl fy mod yn dod o Lerpwl :?
Felly i ateb dy gwestiwn .....cymysgedd o bob dim :lol:


Oeddwn innau yn arfer cael pobl yn deud hynna wrthai pan ddechreuais fynd i

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 9:29 am
gan Wierdo
Fel ddisgrifiodd rwyn fy acen ddoe, gin i acen mwngral cymraeg. Dwi di byw ym Mhorthmadog ac yng Ngharmel (yn Nyffryn Nantlle) felly dwi'n amlwg di pigo'r acennion i fyny. Ond ma mam yn dod o Bala a dad o...bob man (Caerdydd Lanelli, Wyddgryg, Bangor, Hendy....) felly gin i acen bob man go iawn. Ond swnin deud bo gin i acen Dyffryn Nantlle (sydd yn reit debyg i Cofi to the untrained ear :winc: ) ond mod in defnyddio lot o eiriau bobman arall fel Llaeth Stair, Pesychu ayyb.

Saesnag? Acen rwyn sydd methu sharad susnag mashwr. Dwin panicio os oes RHAID i mi siarad susnag (dwin gallu'n iawn) ac yn mynd yn gymraeg i gyd!

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 9:50 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Pan glywodd cyd-weithiwr fi'n siarad Saesneg am y tro cynta' pyddwrnod, dyma hi'n gofyn 'pam ti'n rhoi acen Cymoedd 'mlaen?' :rolio:

Yn Gymraeg, Cardi-lite.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 10:35 am
gan Iesu Nicky Grist
Cymraeg: Sir Gaerfyrddin da bits o Sir Aberteifi, ond bydde rhai yn anghytuno. Wedi ca'l 'i ddylanwadu 'da coleg, eshphoarshee, ac acenion fucked up y Cymry. Ond allai weud bo fi'n swno fel hambon/josc/Dad.

Saesneg: Fel Ryan Davies - Live At The Rank, falle. Ond allai weud bo fi'n swno fel hambon/josc/Dad.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 11:07 am
gan Twyllwr Rhinweddol
Acen wrth siarad Cymraeg - Gwynedd / Arfon. Does gen i ddim llawer o elfennau tafodieithol y gellid eu priodoli i bentref neu ardal arbennig o fewn Arfon ond prin mae rheiny yn bodoli bellach.

Dwi'n tueddu i fynd dan ddylanwad ieithyddol y bobl dwi'n treulio amser efo nhw, e.e. pan o'n i yn yr ysgol uwchradd roeddwn i wedi mabwysiadu swn Bethesda, pan o'n i yn mynd i Glanaethwy roeddwn i'n siarad yn rhyfedd, a hefyd wedi cael cyfnodau o fenthyg synnau gwahanol ffrindiau ar draws Cymru.

Mae fy acen i wrth siarad Saesneg yn fwy cyfnewidiol byth, a hynny am nad oes gen i wreiddiau yn yr iaith. Swn y Bangor Aye yw'r peth mwyaf annymunol ar y ddaear ma a dwi'n falch dweud mai mond am rhyw ddeufis o fy oes y bum i'n swnio felly pan o'n i'n meddwl ei fod o'n cwl, circa 1996. Am flynyddoedd wedyn, bum yn swnio fel un o gymeriadau Traed Mewn Cyffion yn rowlio pob R ac yn ynganu pob llythyren yn agored a Chymreig iawn. Yn fwy diweddar serch hynny mae fy Saesneg wedi safoni rhywfaint, a dwi'n swnio fel bod gen i daten boeth yn fy ngheg.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 11:55 am
gan Gwenllian
Pen Llyn yn de wa!