Tudalen 4 o 7

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 11:59 am
gan Sili
Mae'n acen Gymraeg i'n cychwyn troi at y Sowth wedi mynd ers byw yng Nghaerdydd, the shame! :wps: :winc:

Mae'n acen Saesneg i, fodd bynnag, yn ridiciwlys. Mae nhad i'n Sais a rhwsut neu'i gilydd, dwi wedi tyfu i siarad mewn llais llawer fwy crand na'i acen Kent o hyd yn oed. Y ffordd hawddaf i mi wneud unrhyw un chwerthin ydi deud rhywbeth yn Saesneg, damia. Dwi'n cal lwcs rhyfedd ar y naw pan dwi'n agor fy ngheg i newid yn syth o Gymraeg i Saesneg.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 7:35 pm
gan TeleriTylwythTeg
Ma nhad i'n dod o'r ochra yna, be dwi'n weld ydy bod acen pawb o Glwyd (Sir Ddinbych a Fflint yn enwedig) yn debyg iawn i acen Lerpwl wrth siarad saesneg. Oes rhwun arall yn gweld hyn??

PostioPostiwyd: Llun 13 Chw 2006 1:00 am
gan sali_mali
Haha! Wel dwi'n byw yn Sir Ddinbych pan fyddai adre (o'r brifysgol) - a dwi di sylwi bod pobl o ochre sir y fflint yn sgows-aidd... olraits haws its gowing? haha ac yn y blaen.
Wel yn Gymraeg, dwi'n eitha conffiwsd o ran acen. Mam yn dod o Gastell-Nedd, a dad yn dod o'r Rhyl. (sef lle dwi'n byw adre be bynnag). Dwi just wastad yn meddwl bo gen i run acen. Saesneg na Chymraeg. Y broblem efo hynny ydi bo fi'n mowldio mewn i acenion bobl eraill pan fyddai'n siarad a nhw... dim identity genai o gwbl :(

PostioPostiwyd: Mer 15 Chw 2006 4:13 pm
gan Twpsan
mazda - sud fath o acen sgen i ta?

PostioPostiwyd: Mer 15 Chw 2006 4:26 pm
gan HBK25
Yn y Gymraeg - Duw a wyr! Mae rhai wedi dweud fy mod i'n swnio fel dysgwr, eraill yn dweud fod acen Port wedi'i cymysgu hefo'r canolbarth.

Yn y Saesneg - ychydig o acen Port, ychydig o acen Llanidloes. Dywedodd cyd-weithiwr wrtha i llynedd tasa fo ddim yn gwybod o le dwi'n dod, basa fo'n taeru mai o ogledd-orllewin Lloegr oeddwn i - a dwi byth wedi byw yno! :rolio: :lol:

PostioPostiwyd: Mer 15 Chw 2006 8:04 pm
gan Jero Meia
Fedrai'm rili clwad acen fi, ond mae o mwy na thebyg yn Port/ Criciathish. Dwi'n deud 'Cont', 'Blaena-style' lot hefyd, ac yn rhegi ychydig yn ormod. Ac yn lle dweud 'mawr iawn', dwi'n deud "the main mawr" :wps: .

Yn saesneg, dwi'n gorffen lot o frawddegau efo "no" am ddim rheswm (ai thing Criciath yn unig di hyn? h.y y gwrthwyneb i 'Ia' Caernarfon. ), ac yn cyfarch rhywun mewn ffordd dwi mond di glwad yn dod o Tyn Rhos (stad cyngor Cricieth):

Sion= Sio-codi octave-ooooooon!!

Os rhywun arall yn nabod y ffordd yma o gyfarch pobl :?:

PostioPostiwyd: Mer 15 Chw 2006 8:50 pm
gan Daffyd
Pen Llyn cryf yn y Gymraeg. Yn enwedig pan yn feddw.

Yn Saesneg, dwi'n rhoi acen ymlaen, sydd yn eitha posh, ond dal yn Pen Llynaidd.

You can take the boy out of bla bla bla.....

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 9:06 am
gan docito
Dim syniad rili. Meddwl bod e eitha niwtral: Hwntw sir gar gyda bach o 'Glantaf'???? Siwr bydde ING yn gwbod yn well? Nicky?

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 9:47 am
gan cawod o ser
Dwi wedi cael fy nghyhuddo yn ddiweddar o gael acen Ben Llyn wirion o gryf, sef pwysleisio bob gair yn ormodol, ac ar ol i'r person hoffus bwyntio hyn allan i fi dwin sylwi ar fy hun yn neud o drwr amsar a mae on eitha annoying :!:
Yn siarad saesneg dwi'n swnio fel Cymraes.

PostioPostiwyd: Llun 20 Maw 2006 9:51 am
gan sion blewyn coch
Dwin conffiwsho pobol yn eitha aml efo fy acen i, dwi di cael fy magu ym Methel ger Caernarfon felly ma na chydig bach bach bach o cofi yn fy acen i, ond man nhad in dod or de a mam or canolbarth su di achos i mi siarad ag acen y de (cwm tawe-ish) adra a hefo gweddill o aeloda fy nheulu ers dwin gallu cofio! dwin gwbod bod hyn yn rhyfadd, ond dwi methu helpu newid fy acen rhwng siarad a fy nheulu a fy ffrindia. mar ddau acen yn dod yn hawdd iawn i mi.