Teleri Tylwth Teg a ddywedodd:Ma nhad i'n dod o'r ochra yna, be dwi'n weld ydy bod acen pawb o Glwyd (Sir Ddinbych a Fflint yn enwedig) yn debyg iawn i acen Lerpwl wrth siarad saesneg. Oes rhwun arall yn gweld hyn??
Ma fy ffrind fi'n rhannu ty gyda yng Nghaerdydd yn dod o Abergele - o ni'n galw e'n Sgowsar pan oedden ni di cwrdda y tro cynta. Wastod yn digwydd i fe bod pobl yn cymrid bod e'n dod o Lerpwl.
Eniwe, fi.
Yn y Gymraeg tafodiaith Gwmtawe yn llwyr - cwpla geiriau da '-e' ynlle '-au', gweud geiriau fel 'cenol' yn lle canol, dim yn defynddio '-io' ar diwedd geiriau fel lico/drifo.
Ma'n Gymraeg ni lawr ma yn fwy araf dwi'n credu. Dwi byth di gorfod siarad y iaith gywir er mwyn addysg neu gwaith, felly dwi'n siarad lot fawr o slang da fy ffrindie a rhieni, a fyddau byth gallu siarad gyda acen S4C ne Sian 'Niwtral' Lloyd.
Yn y saesneg, dwi'n gallu mynd yn West Valleys iawn rhai weithiau, dibynnu ar pwy dwi'n siarad gyda. Gyda fy ffrindie uniaith saesneg dwi'n siarad yn Valleys (
'Ows it goyin waas?' ). Ond gyda athrawon a darlithwyr y Brifysgol, dwi'n siarad itha cywir, da'r swn y accen Valleys ond heb y slang.