Tudalen 7 o 7

PostioPostiwyd: Sul 09 Ebr 2006 7:01 pm
gan muu404
Pan rwy'n siarad Saesneg - acen y cymoedd - total valleys boy.

Cymraeg - hmmm - dysgais Gymraeg yn y cymoedd, wedyn es i Fangor, a dysgais yng Nghaernarfon - wedyn des i nol i ddysgu yng Nghastell-Nedd felly roedd gen i acen cymysg fan na. Nawr rwy'n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn y Rhondda, felly so'n i'n dweud fy mod i'n bach o myngrel er bod llawer o bobl yn meddwl bo fi'n dod o'r gorllewin. Siwr o fod bydd fy acen yn newid to!

PostioPostiwyd: Sul 09 Ebr 2006 7:38 pm
gan garynysmon
Dipyn o no-hoper i ddeud y gwir. Mam a Dad a fy ngeulu oll i gyd o Ynys Mon, felly sa fo methu bod yn ddim byd arall.

Gwahaniaethau bach rhwng ni a Gwynedd er enghraifft, 'Iown' yn lle 'Iawn', 'Byta' yn lle 'Byta', 'Teisen', 'Lefran' a.y.b.

Wedi pigo fynny habit pobol Llangefni i ddeud 'gei' yn aml, gytud am hynna. Hefyd yn deud 'ia' ar ol bob dim ers mynd i coleg, sy'n blydi niwsans.

Dwi'n un o'r bobol annoying na sydd methu deud 'R' yn iawn 'fyd.

Dydi Rownd a Rownd heb gael hi'n hanner iawn mae arna'i ofn.

Os na Hywel Gwynfryn ydi'ch syniad chi o acen Ynys Mon, yna da chi mor, mor anghywir. Mae un fo llawer rhy gywir 8)

Mae acen Saesneg fi fel pawb arall 'fforma.

PostioPostiwyd: Maw 18 Ebr 2006 5:06 pm
gan sanddef
Dim syniad, ond rhywbeth reit estron.

PostioPostiwyd: Sad 29 Ebr 2006 3:19 am
gan Arffinwé
Acen Cymraeg M

PostioPostiwyd: Sad 29 Ebr 2006 3:36 am
gan Mali
Ti di troi yn ddipyn o Canuck felly . :winc:

PostioPostiwyd: Sul 30 Ebr 2006 3:20 pm
gan Arffinwé
Do mwn. Sgwn i os gai acen Bro Morgannwg flwyddyn nesa'? Mi gafodd fy mrawd dipyn o un yn ystod ei flwyddyn allan llynadd. Efallia y gwnai pigo fyny acen mwy gyfarwydd imi ym Mhrifysgol- I

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 11:12 am
gan Prysor
Acan gogladd Meirionnydd 'de. Traws a Stiniog. Efo amball air dwi di pigo fyny o bob man dwi 'di byw.

Yn Susnag dwi'n siarad efo acan Gymraeg Gog, sydd, i ni Gogs, yn swnio'n hollol Gymraeg ond sydd, i Saeson a rhai Cardis a Hwntws yn cario lilt o Lannau Merswy - sy'n cryfhau y mwya gogladd-ddwyrain da chi'n mynd. Mae'n gneud sens, achos be ydi acen glannau Merswy ond acen gogledd Cymru yn cwrdd ag acen Swydd Gaerhirfryn?

mae fy acan yn Susnag yn gallu newid ryw chydig fodd bynnag. Dibynnu pwy dwi'n siarad efo. Os dwi'n trafod rhywbeth efo bobol dwi ddim yn arfar siarad efo mae fy acan yn fwy Cymreig ond os dwi wedi ymlacio ac yn siarad (neu rantio!) efo ffrindiau Susnag eu iaith dwi'n llawar mwy free-flowing a dwi'n gallu sylwi ar y lilt Glannau Merswy yn fy nhruth.

Mi ges i foi o Port Talbot yn gofyn os mai o Lerpwl oeddwn i unwaith - ond roedd hynny'n ymateb eithafol gan rywun oedd jesd heb gyfarwyddo ag acenion i'r gogladd o Ferthyr - achos dwi DDIM yn swnio fel sgowsar!

Ond wedi deud hynny, mae gennai lilt Glannau Merswy cryfach na rhai, efallai, oherwydd imi dreulio blwyddyn yn byw efo sgowsars. Y cyfnod o siarad Susnag mwya intensif yn fy mywyd, felly mae'n naturiol mod i wedi pigo fyny'r acen.

edefyn difyr iawn! :D (ond cyfraniad diflas falla!)

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 12:20 pm
gan Mr Gasyth
Na, difyr iawn Prysor. Dwinnau'n debyg i ti o ran fy acen pan yn Saesneg, os dwi'n anghyfforddus neu efo bobl diarth mi fyddai' stryffaglu i swnio'n gall ond unwaith dwi'n dod i arfer ac ymlacio dwi'n iawn. Heb os mae yna dinc o Sgowsn gen i hefyd (Dimbech de), er dwi'n siwr ei bod hi'n mynd yn fwy deheuol yr hira dwi'n byw yn Aber. Ma isho cywiro'r myth ma fod Gogs yn awnio fel Sgowsars - Sgowsars sy'n swnio fel Gogs,er mi faswn i'n adio dylanwad Gwyddelig at y lobsgows sy'n gneud hi'n acen mor unigryw.

Ma'n acen Gymraeg i'n naturiol be faswn i'n ystyried yn ogledd-ddwyrieniol, er bydd lawer nad ydynt yn gyfarwydd a'r ardal yn credu ei bod yn rhy 'lan' a ddim yn ddigon Mostyn-Flintaidd i fod yn gymwys ac yn mynnu yn hytrach fy mod yn dod o'r Bala. Ond eto, mae byw yn Aber gyhyd, a'r gymysgedd o bobl sydd yma yn golygu fod f'acen yn Gymraeg hyd yn oed yn amrywio gan ddibynu ar efo pwy dwi'n siarad.

Pan dwi'n siarad Ffrangeg, wel.... mae pob gyrrwr tacsi Ffrengig/Belgaidd erioed wedi gofyn i mi os mai Gwyddel ydw i. Rhyfedd de, o leia dwin amlwg ddim yn Sais.

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 1:25 pm
gan HBK25
Yn ol hen ffrind o'r ganolbarth, dwi'n swnio'n uffernol o Gymraeg wrth siarad Saesneg ar y ffon, ond ddim gymaint mewn person. :ofn: :?:

Mae rhai pobl wedi dweud ( ar un pryd neu'i gilydd) fy mod i'n siarad fel rhywun o: Caer, Gogledd Lloegr yn gyffedinol; Birmingham; Powys; Porthmadog a Sir Fflint.

Roedd fy nhgyn gariad yn cymryd y pis trwy ddweud nad o'n i'n ddigon ogleddol wrth ynghanu geiriau fel paned, gogledd, dau ayyb. The cheeky cow had to go after that :crechwen: Dwi'm yn gweld hynna'n ofnadwy o ddrwg chwaith, achos dwi'm yn rhy hoff o'r or bwyslais ar rhai eiriau e.e panad (o le mae'r "a" wedi dod?). Dim ond barn, cofia :winc: [/i]