Yw'r Gymraeg yn Neisach Iaith na'r Saesneg?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sanddef » Mer 28 Meh 2006 10:18 am

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Dyna gwestiwn od. Fel gofyn os ydi B fflat yn well nodyn nag E.


B flat yn well nag E??? Ti o ddifrif???
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 29 Meh 2006 9:38 am

Dwi mewn dau feddwl am y peth.

Ar un ochr, fel dywedodd Colin Newman, "E is where you play the blues", sy'n beth da. (Er, fel y mae pawb yn gwybod, mae Newman yn ein annog i osgoi E, yn ogystal a C a D, tra'n trafeilio o A i B, ond ta waeth).

Ac eto, nodyn gwyn ydi E, ac mae pawb yn gwybod nad oes rhythm gan nodau gwyn. Drwy fod yn nodyn du, mae B fflat o'r rheidrwydd yn fwy cwl.

Wrth gwrs, gellir osgoi'r broblem yn hollol drwy chwarae'r nodau E a B fflat gyda'i gilydd ar yr un pryd - drwy hyn fe geir swn debyg iawn i Dave Edwards yn ceisio canu dros felodi.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan y mab afradlon » Iau 13 Gor 2006 9:47 am

Mae 'ngwraig yn Saesnes sy wrthi'n dysgu Cymraeg. Pob hyn a hyn, ry'n ni'n dod at air nag wy'n gwybod y gair saesneg amdano. Ond galla'i esbonio'r emosiwn sy ynghlwm wrth y gair yn hawdd. (Ddoe, wedais i 'dirmyg', rhyw air dishgwl lawr ych trwyn, crychu talcen, bach o ebychiad falle...) Dyw hi ddim yn deall bod emosiynau ynghlwm wrth unryw eiriau - esboniadau oer technegol sy 'da hi ar eiriau pob tro.

Ydw i'n ffriic? Neu ydy'r iaith Gymraeg yn fwy emosiynol na'r Saesneg? Os felly, wrth gwrs ei bod hi'n well iaith na'r Saesneg, oherwydd ei bod hi'n gweddu i ni'r Cymry'n well.
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron