Macsen a ddywedodd:Mae'n anodd gwneud i Saesneg swnio'n ddrwg, ond mae 'na rywbeth oer a hysb amdano fel nad yw'n cyraedd yr uchelfannau.
Mae'r Gymraeg yn swnio'n hollol ofnadwy pan ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd clogyrnaidd, ond yn swnio'n well na' Saesneg ar ei gorau.
Dw i'n meddwl bod ysgrifennu Saesneg da, ar ei orau, yn wirioneddol wych; nid oes gan y Gymraeg
scope cyn ehanged a'r Saesneg gyda llawer o eiriau ac mae'n anodd efelychu ehangder y Saesneg yn y ffordd yna. Ar y llaw arall, dw i'm credu'r un iot fod barddoniaeth Saesneg cystal ac un Cymraeg. Mae 'na rhywbeth am farddoniaeth Cymraeg sy'n gweddu'n hiaith yn gyffredinol.
Ar lafar mae'r Gymraeg yn hyfrytach o ychydig, dw i'n teimlo. Mae'n sicr yn mwy diddorol. Mae Saesneg yn iaith eithaf fflat ar y cyfan, ac anodd iawn byddai dadlau efo hynny dw i'n meddwl. Er, ar lafar mae pethau fel tafodiaith ac acen (yn benodol) yn gallu dod i mewn iddi. Dw i'n caru acen Gernyweg, ond gas gennai Sgows a Geordie. Ar yr un lefel dw i wrth fy modd gyda acen caled y Cofi ac neu acen ardal Castell Newydd Emlyn, tra bo acen Crymych yn mynd dan fy nghroen.
Er hynny, iaith gyffredinol
addasach yw'r Gymraeg. Hynny yw, y mae pethau drwg (gwrach, mellt, cythraul, ffiaidd) gyda geiriau eithaf hyll iddyn nhw, tra bod pethau da (tylwyth teg, hardd, golau, prydferth) gyda rhai o'r geiriau addfwynach sy'n bodoli mewn unrhyw iaith.