gan caws_llyffant » Mer 21 Meh 2006 9:40 am
Chwarae teg . Pencrwban , wyt ti'n haeddu parch . Mae hi'n anodd iawn i ddysgu iaith ar ben dy hun , a wyt ti'n bell o Gymru hefyd . Da iawn wir .
Fi di'r unig un sydd wedi dweud hwn i chdi , dwi'n meddwl . Oedd dy Nain yn medru siarad Cymraeg ? Sut wyt ti'n dysgu?
MAE 'R CYMRY WEDI NEWID .
Pan oeddwn i'n hogan fach yn byw yn New Guinea ac yn Affrig , oeddwn i'n mynd i Gymru drost y Nadolig . Roedd fy nhad yn sticio fi yn yr ysgol Morfa Rhiannedd , Llandudno am bethefnos . Roeddwn i fel mini superstar yn yr Ysgol Morfa Rhiannedd . Mrs Roberts yn canu , telyn , pob dim . Roedd y prifathro yn siarad i'r ysgol i gyd i ddweud faint oeddwn i'n bwysig , yn siarad Cymraeg yn bell o Gymru . A roedd y plant yn edrych lle oedd New Guinea ar y map . Roedd pawb eisau bod fy ffrind , a fel oedd neb yn adnabod fy nhad , roedd Dadi yn Siôn Corn pob blwyddyn . Blydi grêt . Roedd y bwyd yn ofnadwy , ond dim ots am y bwyd pan wyt ti'n mini superstar .
Ond rwan , mae PAWB yn siarad Cymraeg , mae o'n iaith 'trendi' iawn , a dyna pam mae neb yn rhoi clod i chdi , Pencrwban . Pan oeddwn i'n hogan fach lot o amser yn ôl , roedd pethau'n wahanol . Mae pethau wedi newid , a mae hynny'n dda .
Diolch i Mrs Roberts , y prifathro , ar Ysgol Morfa Rhiannedd . Os wyt ti'n teimlo fel mini superstar pan wyt ti'n ifanc , wyt ti'n teimlo'n arbennig am byth .
A da iawn wir am dy Gymraeg , Pencrwban . Ardderchog .
Faitoto ! (Tahiteg)
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "