gan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 29 Meh 2006 9:38 am
Dwi mewn dau feddwl am y peth.
Ar un ochr, fel dywedodd Colin Newman, "E is where you play the blues", sy'n beth da. (Er, fel y mae pawb yn gwybod, mae Newman yn ein annog i osgoi E, yn ogystal a C a D, tra'n trafeilio o A i B, ond ta waeth).
Ac eto, nodyn gwyn ydi E, ac mae pawb yn gwybod nad oes rhythm gan nodau gwyn. Drwy fod yn nodyn du, mae B fflat o'r rheidrwydd yn fwy cwl.
Wrth gwrs, gellir osgoi'r broblem yn hollol drwy chwarae'r nodau E a B fflat gyda'i gilydd ar yr un pryd - drwy hyn fe geir swn debyg iawn i Dave Edwards yn ceisio canu dros felodi.
Ie, ie. Na fe.