Tudalen 1 o 1
Golygydd
Postiwyd:
Iau 09 Chw 2006 4:05 pm
gan Hogyn o Rachub
Eisiau rhywun olygu darn o waith imi ydw i, os bosib (pum pennod werth o waith a dweud y gwir). Cyfieithiad o rhywbeth ydyw. Dw i ddim yn gofyn i neb ar y Maes ei olygu (blaw os mae nhw isho!) ond at bwy neu i le y byddai rhywun yn gyrru rhywbeth felly?
Neges breifat os bosib.
Diolch am unrhyw help!
Postiwyd:
Iau 09 Chw 2006 4:57 pm
gan Mihangel Macintosh
Wy ti'n fodlon talu am gael y gwaith wedi neud?
Postiwyd:
Iau 09 Chw 2006 5:48 pm
gan Hogyn o Rachub
Na (crap dw i de?). Dydi o'm yn gyflawn o gwbl ti'n gweld, be dw i angen ydi arweiniad a gwybod os oes pwynt imi gario ymlaen gyda fo yn hytrach na dim arall.
Postiwyd:
Iau 09 Chw 2006 6:37 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Go brin y dylet ti fynd at olygyddion proffesiynnol (a argymhellir gan y Cyngor Llyfrau) felly. Y peth gorau alli di ei wneud ydi gofyn barn anffurfiol rhywun.