Jyst o rhan diddordeb:
Pwy ar y maes sydd ddim yn Gymry Cymraeg cynhenid?
Unrhyw Archentwyr, Llydawyr, Saeson ayb sydd yn defnyddio'r maes fel cyfle i'w helpu i gael gwell syniad o ddiwylliant Cymreig ac er mwyn ymarfer yr iaith?
Ma gen i ddiddordeb mawr yno chi. Beth yw eich profiade? Yw y Maes yn gymorth i chi? Yw e ychydig yn frawychus?
Wedi sylwi bod y rhan fwyaf o'r cyfrannwyr yn Gymry Cymraeg gyda Cymraeg eithaf safonnol. Baswn i'n meddwl ma'r maes yw'r ffordd berffaith i fobl o bob rhan o'r byd i drafod yn y gymraeg. Dylse bod ni'n neud mwy fel maeswyr i annog rhagor i ddefnyddio'r maes?
dw'i ddim yn son am chi 'ex-pats' sydd wedi lleoli i rhannau arall o'r byd