Dildo anti nel

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dildo anti nel

Postiogan mwnci » Mer 15 Chw 2006 11:31 pm

S'mai,

Ella dylsai hwn fod yn yr adran llenyddiaeth, ond oni methu ffendio un ar y maes. Os dosna'm un i'w gael, ella dylsai cal un.

Dwi'n chwilio am y gerdd 'Dildo Anti Nel', dwi'm yn siwr pwy sgwennodd hi, Nel ella...

Fysa rhywyn yn gallu postio'r gerdd fyny'n fyma, neu yrru fo mewn neges breifat i mi plis.
harri! paid a chwara efo hwnna!
mwnci
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2004 9:35 am
Lleoliad: caerdydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 15 Chw 2006 11:32 pm

ymuna
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Huw Psych » Iau 16 Chw 2006 7:00 pm

Ydi hyn wbath i neud efo be udis i wrth rywun yn ddiweddar drwy lwc?? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Re: Dildo anti nel

Postiogan Creyr y Nos » Iau 16 Chw 2006 7:10 pm

mwnci a ddywedodd:Ella dylsai hwn fod yn yr adran llenyddiaeth, ond oni methu ffendio un ar y maes. Os dosna'm un i'w gael, ella dylsai cal un.


llenyddiaeth

Mae'r gerdd yma yn y llyfr Stwff y Stomp, wele fanylion oddi ar Gwales: Stwff y Stomp

Cerdd ffacin wych ware teg, ma stwff arall da da'r un awdur yn y llyfr ma hefyd.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Dildo anti nel

Postiogan helen williams » Sad 04 Rhag 2010 10:50 pm

Dyma'r gerdd, fy ewythr i, Myrddin Williams ddaru ei hysgrifennu hi!


Dildo Anti Nel

Roedd Yncl Now ac Anti Nel
Yn byw ym Mhen-y-groes,
Roedd Anti Nel yn gocwyllt iawn,
A phidlan Now fel toes.

Bob nos ai Now i'r gwely
Ar ôl cael Ofaltîn,
A chwyrnu'n uchel tan y wawr
Heb obaith am gael mîn.

Medd Nel: - does gen i'm dewis
Ond ordro teclyn rwd,
A mawr fu'r disgwyl wrth y drws
Am Postman Jos a'i gwd.

Y teclyn oedd yn fychan,
Ac Anti Nel yn fawr,
A doedd dim sôn na siap am ddod
'Rôl stwna am dair awr.

Mae hwn yn iawn i ll'godan
Medd Anti Nel yn flîn.
Wel ffwcia hyn, medd Yncl Now,
Mi wna'i un gwell fy hun.

Cath bartia o ryw sgrapiard,
A saim, am bedair punt,
A letric motor mawr thri ffês,
Fu'n chwaral Cilgwyn gynt.

Bu’n sbecian ac yn mesur,
Do wir am oriau maith,
Fel prentis geinicolojist
Yn y cilfachau llaith.

Daeth noson fawr y profi,
A Nel oedd ar ei hyd,
A Now a drodd y swits ymlaen
Ar ddildo gorau'r byd.

Aeth Anti Nel'n rilijys,
A gwaeddodd - Arglwydd goc!
A'i llgada'n rowlio rownd ei phen
Run fath a phys mewn woc.

Disgynodd llestri'r dresal,
A shatrodd llun o'r cwin,
A Nel fel stwffwl ar ei chefn
A mwg yn dod o'i thin.

Roedd rymblan fel daeargryn,
Daeth cyrn saith ty i lawr,
Ond chwythodd ffiws yn Wylfa, Môn,
Gan stopio'r llanast mawr.

Daeth y papurau newydd
I glywed am y stwr,
A dwedodd Nel a'i fflaps yn rhacs -
Ffwl mârcs i Now y gwr.

Fe dynnwyd lluniau filoedd,
Caed intarfiws di-ri,
A'r pennawd welwyd yn y Syn -
'Ddî yrth dud mwf ffor mî'.

Myrddin Williams
helen williams
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Gwe 14 Tach 2003 2:31 pm
Lleoliad: sheffield(gyda'r saeson hyll)

Re: Dildo anti nel

Postiogan Doctor Sanchez » Sul 05 Rhag 2010 11:56 am

helen williams a ddywedodd:A'i llgada'n rowlio rownd ei phen
Run fath a phys mewn woc.
:lol:

Gwych!
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron