Tudalen 1 o 2

Cofia Dryweryn

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 2:49 pm
gan carysmiranda
Wyddoch chi pa bryd ymddangosodd y graffiti enwog hwn ar y wal ger Llyn Celyn?

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 2:54 pm
gan Mwnci Banana Brown
Wel- yn 1965 gath Tryweryn 'i foddi, ond sain gwbod pryd ymddangosodd y graffiti.

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 11:36 am
gan Prysor
pa wal?

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 11:44 am
gan Geraint
Yr un sydd ar wal ger Llanrhystud Ceredigion?

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 12:23 pm
gan Mr Gasyth
Prysor a ddywedodd:pa wal?


:D :D Wali Tomos :D :D


Sori

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 12:30 pm
gan Dwlwen
Delwedd

Oddiar y Beeb.

Cofio Mr Tudur Dylan yn sôn am y fersiwn uchod (o'r 80au hwyr?) Rhyw dro, amser maith yn ôl, cafodd y graffiti 'face-lift' gan griw o ddisgyblion ysgol... Debyg fod Athrawes Gymraeg wedi sylwi, yna twtio'r 'gam-threigliad' newydd, sef 'Cofiwch Tryweryn', mewn gwers. Yn fuan ar ôl 'nny, cywirwyd y gwall, ac ychwanegwyd yr ôl-nodyn 'sori miss'.

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 12:46 pm
gan Cymro13
Ma ishe i rywun neud rhwybeth i'r wal yna cyn iddo fe syrthio'n gyfan gwbwl - Mae'r llythrennau'n cwympo off

Re: Cofia Dryweryn

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 12:53 pm
gan Prysor
carysmiranda a ddywedodd:Wyddoch chi pa bryd ymddangosodd y graffiti enwog hwn ar y wal ger Llyn Celyn?


prysor a ddywedodd: pa wal?


na, nid y wal ger Llanrhystud, a nid Wali Tomos(!), ond pa wal ger Llyn Celyn sydd efo 'Cofia Dryweryn' arno. O be wela i does dim wal yno heb son am un efo slogan? Neu a ydw i wedi methu rwbath? Fallai ei fod yn newydd, felly?

atebion (call) ar boscard os gwelwch yn dda... :D

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 1:26 pm
gan Mr Gasyth
na, nid y wal ger Llanrhystud, a nid Wali Tomos(!)


sori, un o fy hoff leins ar C'mon Midffild ydi lle ma Wali'n dyst mewn treibiwnal, heb ei sbectol. "Fedrwch chi ddarllen yr arwydd ar y wal acw Mr Tomos?" - "Pa wal?"

Dwi'n amau mai Carysmiandra sydd wedi drysu ynghylch lleoliad y graffiti a wedi cymeryd yn ganiataol ei fod ger Llyn Celyn.

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 2:14 pm
gan Ray Diota
rhyw fois o ysgol nath ailbeintio'r un yn Llanrhystyd sbel yn ol - ac ma'r "sori miss" welwch ch 'na yna achos bo nhw wedi sillafu 'treweryn' yn hytrach na tryweryn a gathon nhw row wrth ein hathrawes Cymraeg, Miss Nia Jones :D