Yng nghyflwyniad Geiriadur yr Acádemi dywedir fel hyn am y deugraff (wy) (brasgyfieithiad):
Yn ôl y rheol mae “wy” mewn gair lluosill, megis gwynnaf, gwyntoedd, gwyrddion, chwynnu, gwyrthiau, celwyddog, chwythiadau, tywyllwch, ayyb, i’w ynganu fel deusain ag iddi’r llafariad dywyll (ø) (ør wyf øn dodi’r sumbol ø øma i ddønodi’r “y”) neu’r ‘shwa’, hynny yw (wø), neu fel “wo” yn y gair Saesneg “wonder”.
Ond mewn gwironedd fe’i hyngenir (wi) (deheuol) neu (wI) (gogleddol), sef fel “wi” yn y gair Saesneg “winter”. Hynny yw, mae’r geiriau lluosill yn dilyn ynganiad y geiriau unsill gwyrdd, gwynt, gwyrth, chwyn, chwyth, ayyb. Mae hon yn arfer bron yn ddi-eithriad yn y De.
Cwestiwn: Ydy’r un peth yn digwydd yn y Gogledd? Ai Gwynedd ynteu Gwinedd a ddywedir fel arfer? (A beth am Gwynadd - ydy rhai yn dweud -add yn lle -edd, neu ydy hwn yn air rhy 'lenyddol' i gydymffurfio â'r arfer dafodieithol e > a?)