Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw
sian a ddywedodd:Ond dyw bobl Gwynedd ddim yn gallu gweud "z" - "s" maen nhw'n dweud.
Ro'n i mewn pwyllgor yn ddiweddar â Sais yn bresennol. Un o'r Cymry'n gofyn "What about the prices?" Y Sais yn ateb "We would have to charge an entry fee." "No," meddai'r Cymro, " not prices, PRICES - for the winners!" Gwobrau oedd e'n feddwl.
Roedd dwy ferch o'r enw Zoe a Zia yn byw drws nesa ond un i ni ac roedd y bobl mewn oed yn y pentre yn arbennig yn cael trafferth â'u henwau ac naill ai'n eu galw'n Sôi a Sîa neu'n mynd dros ben llestri a dweud ZZZZZoe a ZZZia.
Dw i'n meddwl bod y bobl ifanc yn cael llai o drafferth.
Llwyd y Mynydd a ddywedodd:Sha Bae Colwyn 'na mae yn ôl y sôn ryw "Sw Mynydd". Ond mewn gwirionedd a oes yr un ened byw yn gweid "sw" ? Ych chi wedi clywed ariod am deulu yn mynd i'r "sw"? I'r "zw" o'n ni'n mynd yn grwts wastod!
Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai