Blog KymroKanol

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dwlwen » Maw 04 Gor 2006 3:38 pm

Gwen a ddywedodd:Ro'n i'n meddwl i ddechrau mai 'gau' oedd o, ond mi wnaeth y frawddeg i mi feddwl fel arall...

Gwen a ddywedodd:Ond, atolwg (er mod i wedi trio peidio):
GPC a ddywedodd:cau
1. Gwag oddi mewn, â gwacter neu le gwag, heb graidd neu sylwedd mewnol, pantiog, ffig. ffals, twyllodrus: hollow, empty, sunken, fig. false, deceitful.

Yr un ystyr a 'gau' wedyn, ie?

(Ma'r pun ar 'gay' i weld yn ran o'r jôc, yn enwedig wrth sôn am y gwallte :winc:)
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Gwen » Maw 04 Gor 2006 3:41 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:perthyn i'r Saesneg 'coy'? mae cysylltiad yn yr ystyr.


Ella. Digon posib, deud gwir, achos mae'n bosib fod cau yn yr ystyr dan ni fwya cyfarwydd ag o yn dwad o'r Lladin cauus. Sgen i'm geiriadur Saesneg digon soffistigedig i jecio os mai o'r ffurf hwnnw mae coy yn dwad, ond synnwn i ddim.

Ar y llaw arall, os mai o'r ffurf Gelteg *kouos y mae cau yn tarddu, yna mae'n annhebygol.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Llefenni » Maw 04 Gor 2006 3:42 pm

Ond os edrychwch ar y cysyniad o "steiliau gwallt peldroedwyr" - credu bod fy nehongliad cynyaf o "Kev" (aka Kevin Keegan) yn ddilys :winc:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Gwen » Maw 04 Gor 2006 3:52 pm

Dwlwen a ddywedodd:Yr un ystyr a 'gau' wedyn, ie?


Wel... ia hefyd (ar ôl tshecio).

Y rheswm pam 'mod i 'di diystyru 'gau' gynna oedd am nad oedd o, yn yr ystyr 'celwyddog' ayyb, i weld yn gweddu i'r cyd-destun. Ond dwi'n gweld rwan fod 'gau' fel ansoddair yn gallu golygu 'ffals' hefyd. Diolch Dwlwen.

Dwlwen a ddywedodd:(Ma'r pun ar 'gay' i weld yn ran o'r jôc, yn enwedig wrth sôn am y gwallte :winc:)


Yndi, a dan ni (oce ta - fi) yn cymryd hyn lot gormod o ddifri.

Oes na rywun yn gwybod pwy 'di'r awdur? Awdurdod ar Gymraeg Canol sydd hefyd yn ffraeth... Anodd meddwl. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan sian » Maw 04 Gor 2006 3:55 pm

Swn i'n gweud "coeden goi" am goeden â'i thu mewn hi wedi pydru - neu s?n coi am s?n gwag.
(ond ro'n i'n meddwl mai "cou" oedd e)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Gwen » Maw 04 Gor 2006 3:59 pm

sian a ddywedodd:Swn i'n gweud "coeden goi" am goeden â'i thu mewn hi wedi pydru - neu s?n coi am s?n gwag.
(ond ro'n i'n meddwl mai "cou" oedd e)


Ia, ro'n i'n meddwl am y triban na sy'n sôn am bren yn 'goi'. Be 'di union eiriad hwnnw eto? Dwi'n meddwl mai dyna oedd llofnod ffrind i mi ar y maes slawer dydd, ond yn anffodus dwi'm yn cofio be oedd ei enw fo yma. Mi a' i i chwilio rwan beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwen » Maw 04 Gor 2006 4:16 pm

Oce, Conyn oedd o, ond dim ond rhan cynta'r triban oedd yn ei lofnod o. Mae o'n nodi'r gweddill yn yr edefyn yma, ond gan fod 'na lot o rwtsh yn fana, dyma fo i chi:

Conyn a ddywedodd:'Y dydd yn troi, a'r pren yn gou
A'r dyn yn ddou-wynebog'


'Cou' oedd o ganddo fynta hefyd felly...
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Maw 04 Gor 2006 4:25 pm

Gwen a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:perthyn i'r Saesneg 'coy'? mae cysylltiad yn yr ystyr.


Ella. Digon posib, deud gwir, achos mae'n bosib fod cau yn yr ystyr dan ni fwya cyfarwydd ag o yn dwad o'r Lladin cauus. Sgen i'm geiriadur Saesneg digon soffistigedig i jecio os mai o'r ffurf hwnnw mae coy yn dwad, ond synnwn i ddim.

Ar y llaw arall, os mai o'r ffurf Gelteg *kouos y mae cau yn tarddu, yna mae'n anhebygol.


Fi oedd yn rong. Tydi coy yn Saesneg ddim yn golygu celwyddog, ond yn hytrach tawel a mae'n dod o'r un gwraidd a 'quiet'.

1. coy
†quiet, still; shyly reserved. XIV . — (O)F. coi , earlier quei :- Rom. * qutus , for L. quitus QUIET . Cf. QUIT 1 .
(From The Concise Oxford Dictionary of English Etymology )
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan sian » Maw 04 Gor 2006 4:40 pm

Gwen a ddywedodd:
Conyn a ddywedodd:'Y dydd yn troi, a'r pren yn gou
A'r dyn yn ddou-wynebog'


'Cou' oedd o ganddo fynta hefyd felly...


Swn i'n meddwl mai "cou" sy'n iawn achos mae'n perthyn i "ceudod", "ceubal", "ceufad" a "ceudwll"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Gwen » Maw 04 Gor 2006 5:02 pm

Roedd Conyn yn dyfynnu o'r gyfrol Tribannau Morgannwg, felly mae'n debyg mai 'cou' ydi'r sillafiad yn fanno hefyd.

Teipo yng Ngeiriadur y Brifysgol, Siân! :ofn: Be 'nawn ni?!
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron