gan gronw » Maw 05 Medi 2006 12:29 pm
pan glywes i'r busnes caerlŷr-leicester yma gynta, o'n i'n meddwl bo nhw'n wallgo. ac ydy, mae o'n swnio'n wirion. ac roedd o yn mynd ar fy nerfau...
yn anffodus, flwyddyn neu ddwy yn ôl a minnau'n rhodio'n ddihidio i gael fy swper yn neuadd pantycelyn, dyma ferch yn pownsio arnaf gydag arolwg. cwestiynau oedd:
1. ydych chi'n gwrando ar radio cymru? ydw.
2. ydych chi wedi clywed pobl newyddion/chwaraeon yn rhoi cyfieithiad o enwau trefi yn lloegr ar ôl yr enw cymraeg? ydw.
3. ydych chi'n meddwl bod hyn yn syniad da? nadw, mae'n hollol wirion, maen nhw'n trin ni fel ffyliaid bla bla bla.
4. be ydy caerliwelydd yn gymraeg? ymm.
5. caerwrangon? ym, help.
restrodd hi lwyth. o'n i'n gwbod rhai, ond ddim pob un. embaras llwyr ar ôl lambastio'r syniad gymaint. nes i ddysgu nhw ar ôl hynny!
ac ydy, mae'r cysylltiad rhwng yr enwau yn gymraeg a saesneg yn ddiddorol iawn, ac unwaith mae rhywun yn dysgu hynny i chi a'ch bod chi'n gweld hynny, mae'n grêt. ond dydy hynny ddim yn digwydd i bawb.
er bod y "digwyddiad" uchod wedi meddalu fy nghasineb tuag at y cyfieithu ychydig bach, rhywbeth arall sydd wedi neud fi ychydig bach mwy maddeugar o'r syniad.
sef canfod, o siarad efo pobl sy'n honni gwybod, cyn lleied o bobl sy'n gallu siarad cymraeg sy'n gneud hynny'n gyson. edrychwch ar arolwg iaith byig. hefyd, yn fwy perthnasol yn y cyswllt yma, cyn lleied sy'n gwrando ar radio cymru, a chymaint sy'n cael eu rhoi off gan siarad rhy llenyddol, rhy lenyddol, whatever.
yn ôl be dwi'n deall mae mwy yn gwrando ar radio cymru ar hyn o bryd nag erioed, ac ie, pobl fel jonsi a geraint lloyd sy'n gyfrifol am hynny. fy hunan dwi ddim yn mwynhau gwrando arnyn nhw. ond os ydy jonsi yn y bore wedi troi rhai o bobl caernarfon i wrando ar radio cymru, hwrê i jonsi! o na, nes i byth feddwl swn i'n deud hynna. os ydy deud caerwrangon-worcester yn llai sgeri i wrandawyr potensial radio cymru na jyst caerwrangon, a'u bod nhw felly'n gwrando ar radio gymraeg yn hytrach nag un saesneg, falle falle bod gwrando ar hynny yn bris gwerth ei dalu i'r rhai ohonon ni sy'n ddigon lwcus i fod yn hyderus yn ein cymraeg?