gan Prysor » Maw 05 Medi 2006 12:05 am
Gwir neu beidio - mae o i ffwrdd o'r pwynt yn llwyr.
Dwi ddim yn cyflwyno dadl dros gywirdeb a phurdeb ieithyddol yn fan hyn (dwi'n credu fod ieithoedd yn esblygu ac y dylai elfennau o iaith lafar a chyfoes gael eu derbyn fel gramadeg cywir).
Son ydw i am yr arferiad - sydd mor swreal fel y gallai fod yn syth allan o sketch ar Little Britain - o ddweud enw Saesneg rwla yn syth ar ôl yr enw Cymraeg.
Pwy benderfynodd fod y Cymry wedi
a anghofio'r enwau yn y lle cynta, a
b fod y Cymry heb y gallu i agor geiriadur, atlas, llyfr, fynd ar y wê, gofyn i taid neu gymydog neu blentyn ysgol be ydi ystyr Caerlŷr?
Hyd yn oed os oedd achos i gyflwyno'r arferiad yn y dechrau - er mwyn adfer y defnydd o'r hen enwau a bod 'a' a 'b' uchod yn wir - siwrli fod dros ddeng mlynadd o ddeud yr enwau mewn dwy iaith wedi cael effaith bellach??? Neu ydi gwrandawyr Radio Cymru i gyd yn spaced out acid freaks sydd ond yn cofio'r ddau funud dwytha o'u bywydau?
Os ydi rhai carfannau o'r gynulleidfa Gymraeg ei iaith byth yn gwrando ar Radio Cymru yna mae o oherwydd eu tast nhw fel carfan nid oherwydd fod "y Gymraeg yn rhy posh/parchus/pur"
e.e. bobol ifanc - pam fydda nhw yn gwrando ar Radio Cymru yn ystod y dydd??? Sa'm byd iddyn nhw tan 3 o gloch yn pnawn. A mae rhagleni Dylan a Meinir (ac Owain gynt) am 3 yn boblogaidd iawn mewn rhai ardaloedd Cymraeg - a bobol ifanc gyffredin efo Cymraeg cyffredin ydi rheinni, fel cyflwynwyr y rhaglen eu hunain.
A mae rhaglenni y boi Cardi sy'n gyrru bobol i giosgs (Dilwyn Lloyd?) ar fin nos yn engraifft arall o raglen boblogaidd mewn iaith ac arddull boblogaidd. A mae Jonsi hefyd yn boblogaidd efo bobol gyffredin - hardly yn Dderec Llwyd Morgan ei iaith nacdi!
Ac ymhellach, mae unrhyw un sy'n gwrando yn gwbod fod llwyth o geisiadau ac ymgeiswyr cystadleuthau ac ati yn dod o'r dosbarth gweithiol Cymraeg (chwarelwrs Blaena wrth eu gwaith, er engraifft). Ydach chi'n credu, felly fod
a chwarelwrs Blaena, felly, yn siarad Cymraeg posh/pur/cywir, neu
b fod chwarelwrs Blaena yn rhy thic i ddallt be ydi Caerloyw a Chaerfaddon ac felly angen eu hatgoffa bob dydd?
Dio'm yn anodd, nacdi? Ystyr y gair chester ydi caer (hence Caer a Chester). Caerloyw = Gloucester. Caerlŷr = Leicester. Caerliwelydd = Carlisle. Caerlwytgoed = Litchfield. Caerwrangon = Worcester. Caerfaddon = Bath. Gwlad yr Haf = Somerset.
(Plis peidiwch a deud fod y genedl ddim yn gwbod be di 'baddon' a 'haf').