Mae'n flynyddoedd bellach ers i Radio Cymru fabwysiadu'r polisi mwya hurt a grewyd gan orsaf radio erioed.
Flynyddoedd yn ôl penderfynnodd yr orsaf radio 'genedlaethol' nad oedd y Cymry'n ddigon deallus i ddeall geiriau Cymraeg fel Caerwrangon a Chaerliwelydd a Chaerlŷr ac ati. Penderfynwyd y byddai rhaid i ddarllenwyr newyddion ddweud y gair Saesneg yn syth ar ôl y gair Cymraeg.
O ganlyniad cyfeirir at y llefydd hyn fel a ganlyn -
Caerwrangon = "Caerwrangon-Worcester"
Caerlŷr = "Caerlŷr-Leicester"
Caerliwelydd = "Caerliwelydd-Carlisle"
ac yn y blaen ac yn y blaen.
Onid yw hi'n amsar cael gwared o'r cachu sarhaus a nawddoglyd hyn? Neu a ydi'r Cymry Cymraeg nid yn unig yn rhy dwp i ddallt ystyr yr enwau Cymraeg ond hefyd yn rhy dwp i fod wedi eu dysgu nhw ar ôl tua deng mlynedd o'u clywed yn ddwyieithog bron bob dydd?
Dychmygwch Radio Wales, a rhaglenni teledu fel Wales Today, yn mabwysiadu'r un polisi.
Holyhead-Caergybi (neu Caergybi-Holyhead)
Milford Haven-Aberdaugleddau
Fishguard-Abergwaun
Cardigan-Aberteifi
Newtown-Drenewydd
Mold-Yr Wyddgrug
Cardiff-Caerdydd
Swansea-Abertawe ac yn y blaen ac yn y blaen ac yn y blaen....
Mae'r polisi yn un gwallgo, yn sarhaus a nawddoglyd, ac yn amlwg wedi ei ddyfeisio gan dwat oedd yn mesur gallu'r Cymry Cymraeg yn eu iaith eu hunain yn ôl ei anwybodaeth a deallusedd ef ei hun.
Mae angen cwyno nawr. Cysylltwch â nhw ar radio.cymru@bbc.co.uk