Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Mer 12 Gor 2006 2:08 am
gan Prysor
jammyjames60 a ddywedodd:Dwi'n cytuno'n llwyr ni ddylsa na fod enw Saesneg i unrhyw le yng Nghymru, a dylsen ni eithrio pobol i ddefnyddio'r enwau Saesneg.

Ond, tybiaf, nad ydyn ni, y Cymry yn newid enwau Saesneg i'r Gymraeg? Dwi'n gwybod ni fydd 'Manchester' newid i 'Manceinion' byth, ond be dwi'n gofyn, ydyn ni efo'r hawl i Gymreigio enw lle? Dylien ni, neu unrhyw iaith cael enw ei hunain ar gyfer lle?

Beth dwi'n trio ei ddweud ydi, ydyn ni'n bod yn gwrthgyferbyniol gyda'n hunain, mynnu dylia pobol denyddio'r enwau Cymraeg a ninnau'n defnyddio'r enwau Cymraeg i lefydd yn Lloegr?


yr enwau Cymraeg yw'r enwau gwreiddiol ar y rhan fwyaf ohonyn nhw (Caerwrangon, Caelŷr, Penbedw etc), a'r lleill yn enwau sydd wedi eu creu ar yr un adeg a'r rhai Saesneg pan grewyd y dref (fel Manceinion)

PostioPostiwyd: Mer 12 Gor 2006 9:26 am
gan y mab afradlon
Ydy Manchester yn enw newydd felly? Wyi wastad wedi meddwl taw enw rhufeinig (oherwydd yr elfen 'caster / chester) oedd e.

Ond cytuno, mae'r enwau Cymreig fel arfer yn hyn na'r enwau saesneg - wedi dod yn uniongyrchol o'r Lladin y'n nhw, neu ai'r lladin a ddaeth o'r Brythoneg / Cymraeg?

Gyda llaw (sori os yw hyn oddi-ar-y-pwnc) ydy arwyddion ffordd Gymreig yn defnyddio enwau dwyieithog ar lefydd dros y ffin? Wyi'n gwbod nad yw arwyddion gwent yn cyfeirio at na Henffordd na Caerloyw yn ddwyieithog.

Mae defnydd o'r enwau Saesneg ar y radio yn bwnc mwy cymhleth. Wyi'n credu bod llawer yn gallu drysu gyda'r enwau Cymraeg (Wyi'n cynnwys fy hunan yn y nifer hynny!) ond y cwestiwn yw, oes os rhaid i ni atgoffa pobl nad yw'r fersiwn Cymraeg yn ddilys (a hwyrach taw dyna beth sy'n digwydd wrth gyfieithu trwy'r amser.) Yn sicr mae
S.W a ddywedodd:"mae Llanelli'n chwarae'r tim o Gaerfaddon sef Bath..."
yn rhoi'r argraff taw Bath yw'r enw cywir. Wyi'n credu mod i'n cytuno 'da Prysor - mae unrhyw ffans yn mynd i wybod pwy o'n nhw'n chware, a mae'r bobl sydd a diddordeb mawr mynd i ddysgu yn ddigon cloi os nad yw 'cruth' y gair Saesneg ar gael...

Tybed byse post yn cyrraedd y trefi dan sylw, wedi'i cyfeirio yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 12 Gor 2006 9:32 am
gan sian
S.W. a ddywedodd:Yr un gwirionach ydy pan mae nhw'n siarad am chwaraeon "mae Llanelli'n chwarae Caerfaddonbath...." pan gallant ddeud rhywbeth fel "mae Llanelli'n chwarae'r tim o Gaerfaddon sef Bath...."


Maen nhw weithiau'n dweud rhywbeth fel "mae Abertawe'n chwarae'r tîm o Gaerl?r, Leicester City" sy ychydig bach yn well."

Rhyfedd - o'n i'n meddwl am hyn y diwrnod cyn i Prysor godi'r peth - bosib bod pwrpas i "caerwrangonworcester" am gyfnod ond mae'n siwr ei bod yn bryd rhoi'r gorau iddo nawr.

PostioPostiwyd: Iau 13 Gor 2006 4:13 am
gan Hen Rech Flin
Yr hyn sydd yn hurt efo defnydd y BBC o’r cyfieithiadau yma yw eu bod bellach wedi dod yn enwau "cyfansawdd" ar gyfer y trefi Seisnig, ac yn cael eu defnyddio nifer o weithiau mewn un adroddiad.

Clywir pethau megis:

Curodd Caerwrangon-Worcester Wrecsam o ddau gôl i ddim. Cafwyd gôl gan Bob Smith i Gaerwrangon-Worcester yn ail funud yr hanner cyntaf. Bu bron i Wrecsam cael cyfle ym munud olaf yr hanner wedi i John Jones gael ei anafu gan Ned Willis cefnwr Caerwrangon-Worcester ond arbedwyd y penalti yn wych gan gôl-geidwad Caerwrangon-Worcester. Enillwyd ail gôl gan Caerwrangon-Worcester yn degfed munud yr ail hanner. Rwan bydd Caerwrangon-Worcester yn mynd ymlaen i chware Caerdydd yn y rownd derfynol.

Os oes esgus dros ddefnyddio’r enwau Cymraeg a’r Saesneg, ac rwy’n amau dilysrwydd unrhyw esgus o’r fath; yn sicr mae defnyddio’r cyfieithiad unwaith mewn rhaglen / adroddiad yn hen ddigon i addysgu!

PostioPostiwyd: Sul 27 Awst 2006 3:30 pm
gan jammyjames60
Os ydw i'n defnyddio'r enwau Cymraeg yma i bostio llythyrau i Loegr. a ydw i efo'r hawl, neu. yn mwy pwysig, a fydd o'n mynd yna? Hahah, well i rhoi'r enw Saesneg eniwe dydi!

Ac hefyd, ydyn ni efo'r hawl i roi'r enwau greiddiol Gaeleg i llythyrau i'r Alban/Cernyw/ Iwerddon tybed?

PostioPostiwyd: Llun 28 Awst 2006 7:59 am
gan huwcyn1982
jammyjames60 a ddywedodd:Os ydw i'n defnyddio'r enwau Cymraeg yma i bostio llythyrau i Loegr. a ydw i efo'r hawl, neu. yn mwy pwysig, a fydd o'n mynd yna? Hahah, well i rhoi'r enw Saesneg eniwe dydi!

Ac hefyd, ydyn ni efo'r hawl i roi'r enwau greiddiol Gaeleg i llythyrau i'r Alban/Cernyw/ Iwerddon tybed?


Mond bod ti'n cynnwys y côd post cywir fe gei di sgwennu beth bynnag ti ishe!

PostioPostiwyd: Maw 29 Awst 2006 11:12 pm
gan neil wyn
Clywais i 'Jonsi' heddiw yn dweud (wedi i rywun cynnig 'cawod' fel ateb i 'gystadleuaeth y frawddeg') "cawod.. shower", fel tasai y gwrandawyr ddim yn debyg o ddeall y gair 'cawod'...

PostioPostiwyd: Mer 30 Awst 2006 8:02 am
gan nicdafis
huwcyn1982 a ddywedodd:Mond bod ti'n cynnwys y côd post cywir fe gei di sgwennu beth bynnag ti ishe!


Ti'n siwr?

Delwedd

PostioPostiwyd: Mer 30 Awst 2006 8:09 am
gan Tegwared ap Seion
Ella 'bod hi'n saffach 'mond defnyddio'r cod post felly! Yrrish i lythyr adra efo 'mond enw'r ty a cod post a mi g'raeddodd yn iawn. Ta waeth, yn ôl at Gaerwrangon (mmm... worcestershire sauce 8) )

PostioPostiwyd: Mer 30 Awst 2006 7:24 pm
gan huwcyn1982
Hmmm Bethesda neu Bermuda.... syniad da fi lle hoffwn i gael f'anfon ar ddamwain.

Ond nol at y pwnc dan sylw (radio cymru etc). Sai'n gweld unrhyw broblem dweud yr od air Saesneg. Sneb yn siarad Cymraeg perffaith trwy'r amser, a ni ddylsai Radio Cymru troi'n sefydliad sy'n rhy "high-brow" i'w gynulleidfa. Mae'r meddylfryd fod angen i bawb dysgu Cymraeg berffaith cyn gwrando/wrth wrando ar raglenni Radio Cymru yn nawddoglyd tu hwnt. Falle nid safon yr iaith sy' angen newid, ond safon y cynnwys? Hmmm *edefyn arall*