Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Mer 30 Awst 2006 7:45 pm
gan dafydd
nicdafis a ddywedodd:
huwcyn1982 a ddywedodd:Mond bod ti'n cynnwys y côd post cywir fe gei di sgwennu beth bynnag ti ishe!

Ti'n siwr?

Heh. Os ydych chi'n postio llythyr gyda'r cyfeiriad wedi ei argraffu (gan beiriant) mae'n debygol y bydd y cyfeiriad yn gallu cael ei ddarllen drwy OCR. Os yw e mewn ysgrifen, mi fydd yn cael ei symud i adran arall i gael ei ddidoli â llaw, lle mae rhywun yn teipio fewn y côd post. Os nad yw hynny'n gweithio (mae'r unigolyn yn gorfod dehongli'r côd o fewn 15 eiliad) mae'n rhaid trio darllen y cyfeiriad. Gan fod y broses ddidoli yn cael ei wneud gan weithwyr dros-dro sydd yn hanner cysgu (ac yn aml gan fewnfudwyr heb ddealltwriaeth o enwau llefydd yn y wlad) mae camgymeriadau yn gallu digwydd.

PostioPostiwyd: Iau 31 Awst 2006 1:50 am
gan Hen Rech Flin
huwcyn1982 a ddywedodd:Hmmm Bethesda neu Bermuda.... syniad da fi lle hoffwn i gael f'anfon ar ddamwain.

Ond nol at y pwnc dan sylw (radio cymru etc). Sai'n gweld unrhyw broblem dweud yr od air Saesneg. Sneb yn siarad Cymraeg perffaith trwy'r amser, a ni ddylsai Radio Cymru troi'n sefydliad sy'n rhy "high-brow" i'w gynulleidfa. Mae'r meddylfryd fod angen i bawb dysgu Cymraeg berffaith cyn gwrando/wrth wrando ar raglenni Radio Cymru yn nawddoglyd tu hwnt. Falle nid safon yr iaith sy' angen newid, ond safon y cynnwys? Hmmm *edefyn arall*

Rwy'n ddeall dy bwynt. O ran dewis mi fyddai'n llawer gwell gennyf innau bod ym Methesda na Bermiwda hefyd. :)

Mae'r edefyn yma yn son am bobl sy'n cael eu cyflogi fel cyflwynwyr y BBC nid cyfranwyr o'r byd a'r betws. Os yw unigolion yn cyfrannu, rhaid derbyn bydd safon eu hiaith yn amrywiol, fel y mae safon iaith bob cymdeithas ieithyddol. Ond mae disgwyl i'r rai sy'n cael eu cyflogi cadw at ryw fath o safon.

Yn fwy na'r cyflwynwyr chwaraeon sydd yn corddi Prysor, y cyflwynwyr poblogaidd sydd yn ceisio dymchwel Cymraeg coeth cyfrannwr i safon iaith isel y rhaglen sy'n fy nghorddi i. Jonsi yw'r pechadur mwyaf (ond nid yr unig un):

Jonsi: O ble ti'n ffonio Mari?
Aelod o'r cyhoedd: Caergybi.
Jonsi: O! Holyhead! A sut mae'r tywydd yn Holyhead heddiw? :drwg:

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 9:35 am
gan Prysor
huwcyn1982 a ddywedodd:Ond nol at y pwnc dan sylw (radio cymru etc). Sai'n gweld unrhyw broblem dweud yr od air Saesneg. Sneb yn siarad Cymraeg perffaith trwy'r amser, a ni ddylsai Radio Cymru troi'n sefydliad sy'n rhy "high-brow" i'w gynulleidfa. Mae'r meddylfryd fod angen i bawb dysgu Cymraeg berffaith cyn gwrando/wrth wrando ar raglenni Radio Cymru yn nawddoglyd tu hwnt. Falle nid safon yr iaith sy' angen newid, ond safon y cynnwys? Hmmm *edefyn arall*

Dwi'n meddwl dy fod wedi camddallt y "pwnc dan sylw" yma gyfaill.

Dwi ddim yn cwyno am safon Cymraeg (cyflwynwyr na gwrandawyr na Chymry) yn gyffredinol. Dwi ddim yn uniaethu efo dadleuon Cylch yr Iaith o bell ffordd.

Y pwnc penodol dan sylw gennyf yw'r arferiad o alw Caerloyw yn 'Caerloywgloucester', Caerlyr yn 'Caerlyrleicester' a... wel, awgrymaf i ti ddarllen fy nghyfraniad gwreiddiol eto, sbario imi ymhelaethu eto.

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 10:00 am
gan HBK25
Fel rhywun hollol dwp, dwi'm yn gwybod yr hen enwau Gymraeg am lefydd yng Lloegr; felly dwi am ddiolch i Radio Cymru am fy addysgu yn ffyrdd y Celtiaid ac ati. :D :syniad:

Caer- Ble?????

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 4:01 pm
gan Ugain I Un
Fel y rhan mwyaf o siaradwyr Cymreg does gennyf fi y syniad lleia pun ydi Caerloyw a pun ydi Caerlyr..

Ychydig iawn o bobol sydd wedi eu geni ar aelwyd Cymraeg iawn neu wedi cael y cyfle i ystudio Cymraeg i lefel uchel. Mae'r obsesiwn gwirion efo "purdeb' (a byth defnyddio yr un gair Saesneg) yn cael allan pobl eraill o defnyddio eu hiaith eu hun.

Dwi'n gweithio mewn ardal Cymraeg ond tasa neb yn swyddfa fi BYTH yn gwrando ar Radio Cymru. Mae'r radio y swyddfa'n styc ar radio Saeseng trwy'r adeg. Swn i byth meiddio ei newid i Radio Cymru... tasai fy mets yn meddwl mod i'n prat. Maen nhw'n teimlo bod "pethe Cymaeg fel na" dim ar gyfer "pobol ordinari" (sydd ar lefel Cymraeg eitha basic).

Mae'n well i'r radio , taflenni, arwyddion etc ... defnyddio Cymraeg clir a siml efo bach o Saesneg yn lle geiriau obscure fel "Caerlyr" neu "Atborth" er mwyn gwneud y Gymraeg yn fwy cyfeillgar ac yn agored i BAWB. Cadwch iaith safon uchaf pur/academaidd/barddonol at farddoniaeth, y byd academaidd a steddfodau etc.

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 5:04 pm
gan Prysor
*bangio pen yn erbyn y wal*

Re: Caer- Ble?????

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 8:11 pm
gan garypritch
Ugain I Un a ddywedodd:Fel y rhan mwyaf o siaradwyr Cymreg does gennyf fi y syniad lleia pun ydi Caerloyw a pun ydi Caerlyr..

Ychydig iawn o bobol sydd wedi eu geni ar aelwyd Cymraeg iawn neu wedi cael y cyfle i ystudio Cymraeg i lefel uchel. Mae'r obsesiwn gwirion efo "purdeb' (a byth defnyddio yr un gair Saesneg) yn cael allan pobl eraill o defnyddio eu hiaith eu hun.

Dwi'n gweithio mewn ardal Cymraeg ond tasa neb yn swyddfa fi BYTH yn gwrando ar Radio Cymru. Mae'r radio y swyddfa'n styc ar radio Saeseng trwy'r adeg. Swn i byth meiddio ei newid i Radio Cymru... tasai fy mets yn meddwl mod i'n prat. Maen nhw'n teimlo bod "pethe Cymaeg fel na" dim ar gyfer "pobol ordinari" (sydd ar lefel Cymraeg eitha basic).

Mae'n well i'r radio , taflenni, arwyddion etc ... defnyddio Cymraeg clir a siml efo bach o Saesneg yn lle geiriau obscure fel "Caerlyr" neu "Atborth" er mwyn gwneud y Gymraeg yn fwy cyfeillgar ac yn agored i BAWB. Cadwch iaith safon uchaf pur/academaidd/barddonol at farddoniaeth, y byd academaidd a steddfodau etc.

:ofn:

Plis dwedwch mai trol ydi o ...

Re: Caer- Ble?????

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 8:34 pm
gan Rhys Llwyd
garypritch a ddywedodd:

Ma clywed rwbeth felna yn torri ynghalon OND yn anffodus mae o'n wir. Ma ymchwil ma'r beeb a phobl erill (fel Y BYD) di neud yn dangos fod lefel y Gymraeg o ran safon darllen ac ysgrifennu yn syrthio ac ma hwn yn rhan ohono fe.

Ac dwi chwaith ddim yn gwbod be di enwau llefydd tu allan i Gymru yn Gymraeg

:wps:

Re: Caer- Ble?????

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 9:40 pm
gan gronw
garypritch a ddywedodd:Plis dwedwch mai trol ydi o ...

yn anffodus mae Ugain i Un yn dweud calon y gwir :crio:

PostioPostiwyd: Maw 05 Medi 2006 12:05 am
gan Prysor
Gwir neu beidio - mae o i ffwrdd o'r pwynt yn llwyr.

Dwi ddim yn cyflwyno dadl dros gywirdeb a phurdeb ieithyddol yn fan hyn (dwi'n credu fod ieithoedd yn esblygu ac y dylai elfennau o iaith lafar a chyfoes gael eu derbyn fel gramadeg cywir).

Son ydw i am yr arferiad - sydd mor swreal fel y gallai fod yn syth allan o sketch ar Little Britain - o ddweud enw Saesneg rwla yn syth ar ôl yr enw Cymraeg.

Pwy benderfynodd fod y Cymry wedi
a anghofio'r enwau yn y lle cynta, a
b fod y Cymry heb y gallu i agor geiriadur, atlas, llyfr, fynd ar y wê, gofyn i taid neu gymydog neu blentyn ysgol be ydi ystyr Caerlŷr?

Hyd yn oed os oedd achos i gyflwyno'r arferiad yn y dechrau - er mwyn adfer y defnydd o'r hen enwau a bod 'a' a 'b' uchod yn wir - siwrli fod dros ddeng mlynadd o ddeud yr enwau mewn dwy iaith wedi cael effaith bellach??? Neu ydi gwrandawyr Radio Cymru i gyd yn spaced out acid freaks sydd ond yn cofio'r ddau funud dwytha o'u bywydau?

Os ydi rhai carfannau o'r gynulleidfa Gymraeg ei iaith byth yn gwrando ar Radio Cymru yna mae o oherwydd eu tast nhw fel carfan nid oherwydd fod "y Gymraeg yn rhy posh/parchus/pur"

e.e. bobol ifanc - pam fydda nhw yn gwrando ar Radio Cymru yn ystod y dydd??? Sa'm byd iddyn nhw tan 3 o gloch yn pnawn. A mae rhagleni Dylan a Meinir (ac Owain gynt) am 3 yn boblogaidd iawn mewn rhai ardaloedd Cymraeg - a bobol ifanc gyffredin efo Cymraeg cyffredin ydi rheinni, fel cyflwynwyr y rhaglen eu hunain.

A mae rhaglenni y boi Cardi sy'n gyrru bobol i giosgs (Dilwyn Lloyd?) ar fin nos yn engraifft arall o raglen boblogaidd mewn iaith ac arddull boblogaidd. A mae Jonsi hefyd yn boblogaidd efo bobol gyffredin - hardly yn Dderec Llwyd Morgan ei iaith nacdi!

Ac ymhellach, mae unrhyw un sy'n gwrando yn gwbod fod llwyth o geisiadau ac ymgeiswyr cystadleuthau ac ati yn dod o'r dosbarth gweithiol Cymraeg (chwarelwrs Blaena wrth eu gwaith, er engraifft). Ydach chi'n credu, felly fod
a chwarelwrs Blaena, felly, yn siarad Cymraeg posh/pur/cywir, neu
b fod chwarelwrs Blaena yn rhy thic i ddallt be ydi Caerloyw a Chaerfaddon ac felly angen eu hatgoffa bob dydd?

Dio'm yn anodd, nacdi? Ystyr y gair chester ydi caer (hence Caer a Chester). Caerloyw = Gloucester. Caerlŷr = Leicester. Caerliwelydd = Carlisle. Caerlwytgoed = Litchfield. Caerwrangon = Worcester. Caerfaddon = Bath. Gwlad yr Haf = Somerset.

(Plis peidiwch a deud fod y genedl ddim yn gwbod be di 'baddon' a 'haf').