Mi ddwedodd 'na sawl person eu bod nhw'n gwbod sut mae'n teimlo i ddweud rhwybeth twp/doniol fel "Is this the weigher?" (neu beth bynnag oedd yr union frawddeg) heb feddwl, fel y gwnaeth Glyn ar Big Brother sbel yn ôl...
Mi wn i am sawl Cymro Cymraeg sy'n deud pethau tebyg o dro i dro, fy hun yn gynwysiedig. Mae'n digwydd weithiau achos fod geiriau ddim yn cyrraedd yr ymenydd yn ddigon cyflym (scales, yn achos Glyn!), a throeon eraill achos ein bod yn cyfieithu dywediadau Cymreig.
Dyma edefyn i restru'ch Glynisms
Dyma fy rhai diweddar i -
1) It was a bit flat, so I put wind in the tyre (wrth son am y car)
2) That's big enough to call "you" on it! (wrth siarad am rhywbeth mawr - h.y. Mae'n ddigon mawr i alw "chi" arno")
Enimôr for enimôr?!