gan Gwyddno » Mer 06 Meh 2007 2:10 pm
Dod o 'Soligny La Trappe' yn Ffrainc ryw'n meddwl, sef un o abatai urdd grefyddol y Sistersiaid (gw. (Bernard de) Cîteaux), a ddaeth wedyn i'r Hendy Gwyn ar Daf, Ystrad Fflur ac ati (ond NID i Dalyllychau, y Premonstratensiaid oedd yno, sef urdd arall). Os cofiaf yn gywir, dilyn rheol Bened oedden nhw. Beth bynnag, mae llwythi o wybodaeth am hyn i gyd ar y we ac mewn llyfrau os oes rhywun â diddordeb.
Mwy na thebyg (falle) mynachod un o'r abatai roddodd yr enw ar y pentre ond bydde rhaid holi arbenigwr am hyn.