Oes na rywun yn digwydd gwbod be dach chi'n galw'r symbol θ (fatha dim efo llinell drwyddo fo, os nad ydach chi'n gallu gweld hwn yn iawn)? Dwi wrthi'n trawsysgrifio rhestr o fyrfoddau ac yn fod i alw'r symbolau yma gerfydd eu henwau yn hytrach nag... wel, gerfydd y symbolau eu hunain, os ydi hynny'n gwneud unrhyw fath o synnwyr. Dydi'r gronfa-ddata ddim yn gallu delio efo'r symbolau, dyna'r rheswm.
Beth bynnag, mi fyswn i'n ddiolchgar iawn os medar rhywun ddweud wrtha i.