Tudalen 1 o 1

Rhodri Morgana Deddf Iaith ar Radio Wales

PostioPostiwyd: Llun 09 Hyd 2006 3:03 pm
gan Rhys
Roedd Rhodri Morgan ar raglen Richard Evans heddiw yn derbyn galwadau ffôn am wahanol bynciau Cymreig. Ffoniodd un dynes yn holi beth oedd ei gynlluniau am Ddeddf Iaith oedd yn cynnwys y sector preifat, a atebodd Rodders bydai dim pwynt gan mai ond llond llaw o bobl fyddai'n manteisio ar wasaneth Cymraega bod cymharu gyda sefyllfa'r iaith Gatalaneg yn wirion.

Ddim yn siwr os allwch ail-wrando ar ei wofflo yma.

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 1:19 pm
gan CymroBach
Fe glywais i fe'n dwueud hyn hefyd.

Rwy'n credu ei fod yn byw mewn byd bach ei hyn. Does dim cliw gyda fe am yr iaith. Rhyngddo fe a Alun Pugh does dim llawer o obaith gyda ni ar hyn o bryd!!

Fe gyhoeddod S4C a cyngor y celfyddydau adroddiad dros yr haf yn dangos bod mwy o bobl eisiau'r cyfle i wneud pethau drwy'r Gymraeg - falle y dylen ni ddanfon copi at Rhods.

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 1:43 pm
gan Rhys
I rwbio halen i'r briw dyma Rodders yn anfon llythyr uniaith Saesneg ataf dydd Gwener mewn ymateb i gerdyn post lenwais adeg yr Eisteddfod fel rhan o ymgyrch Coed Cadw :drwg:

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 1:59 pm
gan CymroBach
Un gair sydd am bobl fel 'na - Twat!!