Crysau-T Cymraeg

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Crysau-T Cymraeg

Postiogan Llio Mad » Iau 12 Hyd 2006 9:58 pm

Mae criw o bobl ifanc o Llanrwst wedi penderfynu dechrau busnes cynllunio a gwerthu crysau-T Cymraeg. Dani angen holi o gwmpas i ddechrau i weld faint o ddiddordeb fyddai i brynu'r crysau, felly mae'r maes yn le perffaith i ddechrau, yn 'y marn i. Felly...

-Pa fath o logos neu slogans fyddai'n gwneud i chi gysidro prynu crys?

-Faint fyddech chi'n fodlon talu am grys-T o safon da?

-Fyddechi'n cysidro prynu crysa Cymraeg gan fusnes ifanc, ffresh?

-Ydi logos gwladgarol yn syniad da? e.e logos eraill wedi ei newid i gael y geiriau Cymru/Cymraeg ynddyn nhw?

(Tydi'r edefyn yma ddim yn ffitio o dan y pwnc yn dda iawn, ond dwi ddim yn siwr lle arall i'w roi o)
GOLCHI MURSEN?! Dydi Mursen ddim yn hoffi cael ei golchi, siwr iawn! Pwy erioed glywodd am rywun yn golchi cath? Ffwrdd â thi, y gwalch bach drwg!-Angharad Tomos (Rwdlan)
Rhithffurf defnyddiwr
Llio Mad
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 109
Ymunwyd: Sul 02 Hyd 2005 1:44 pm
Lleoliad: Byd Bach Fy Hun

Re: Crysau-T Cymraeg

Postiogan Rhys » Gwe 13 Hyd 2006 12:33 pm


-Pa fath o logos neu slogans fyddai'n gwneud i chi gysidro prynu crys?

Ym, rhai neis (tebyg i rhai Howies a glo4life - ond yn Gymraeg)

-Faint fyddech chi'n fodlon talu am grys-T o safon da?
Byddwn i'n fodlon talu tipyn, hyd at £25 - ond bydde'n rhaid iddo fod o safon uchel ac yn ddelfrydol yn organig ac unai wedi ei 'wneud' yng Ngymru (nid dim ond y printio) neu os dramor, yna o dan amodau gwaith teg i'r gweithwyr - h.y. dim byd o sweat shops! (fel Howies a glo4life o Gymru a rhai o'r rhain)*

-Fyddechi'n cysidro prynu crysa Cymraeg gan fusnes ifanc, ffresh?
Byddwn yn fwy na ystyried y peth, byddwn yn gwneud pwynt o gefnogi busnesau Cymraeg a Chymreig ifanc.

-Ydi logos gwladgarol yn syniad da? e.e logos eraill wedi ei newid i gael y geiriau Cymru/Cymraeg ynddyn nhw?
Byddai'n apelio at rai (gan gynnwys fi), ond mae wedi cael ei wneud o'r blaen


*Anhebygol bydd eraill yn fodlon talu cymaint. Efallai nad yw ots gan y mwyafrif o bobl ble neu sut mae eu dillad wedi eu gwneud, ond mae'r canran sydd yn poeni yn cynyddu. Gan bod cymaint o gwniau crysauT Cymraeg yn bodoli'n barod, gall fod yn dull o sefyll allan.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Llio Mad » Mer 01 Tach 2006 12:46 am

Rhywun arall isio atab? Dani rili angan help i wbod faint o bobol sydd efo diddordeb!

Ma gen y grwp Bebo rwan hefyd, efo lluniau o'r 4 prif gynllun sydd gennym ni ar y funud. Cerwch am sgan a gadal comments os oes gennych chi amser ar : http://www.bebo.com/grp/Grp.jsp?GrpType ... 2295883550

Diolch!
GOLCHI MURSEN?! Dydi Mursen ddim yn hoffi cael ei golchi, siwr iawn! Pwy erioed glywodd am rywun yn golchi cath? Ffwrdd â thi, y gwalch bach drwg!-Angharad Tomos (Rwdlan)
Rhithffurf defnyddiwr
Llio Mad
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 109
Ymunwyd: Sul 02 Hyd 2005 1:44 pm
Lleoliad: Byd Bach Fy Hun

Re: Crysau-T Cymraeg

Postiogan SerenSiwenna » Mer 01 Tach 2006 10:16 am

-Pa fath o logos neu slogans fyddai'n gwneud i chi gysidro prynu crys?

-Faint fyddech chi'n fodlon talu am grys-T o safon da?

-Fyddechi'n cysidro prynu crysa Cymraeg gan fusnes ifanc, ffresh?

-Ydi logos gwladgarol yn syniad da? e.e logos eraill wedi ei newid i gael y geiriau Cymru/Cymraeg ynddyn nhw?


Fyswn i wrth fy modd yn prynnu crys T Cymraeg...dwi hefo un coch hefo "sai'n angel ond dwi'n siarad iaith y nefoedd" arni a dwi'n credu mai fi oedd un or rhai cyntaf i neidio ar y syniad o crysau T maes-e (lyfli gyda llaw) mae'n neis gael rhywbeth mwy personol i'w wisgo. Cytuno a Rhys, £25 am un o safon da, dwi'n credu fod hynnan going rate, ddim bo fi'n gwbod dim am gwerthu crysiau T de!

Dwi'n hoff iawn o crysau t bach hwyl fel hyn - pan symes i i Lerpwl o ni wrth fy modd hefo top shop gan bo nhw'n gwerthu crysiau t bach gan cwmni or enw 'hussy' a oedd gan llyniau 'stills' wedi ei cymryd gan the diwcs of hazard a starski and hutch (yr un gwreiddiol). Fysa crysiau or safon yna yn gwerthu'n dda dwi'n credu gan fod lot o detail arnyn nhw, e.e hefo sin o c'mon midfield arnyn nhw a ryw quote bach digri ar y cefn...ella rhywbeth i wneud hefo hitatchi (gweler yr ehedyn am hoff stori ar c'mon midfield)

Mae crysiau T Fossil hefyd o safon da - defnydd da, dyna un or pethau pwysicaf...fod on fittion dda ac yn hongian yn dda ar y corff. Mae gen i un pinc poeth sy hefo llun o cyfrifiadur ar y blaen sy'n deud "Talk nerdy to me".

Hoffi'r rhai da chi di gwneud yn barod, yn enwedig yr un ala coca cola.

Reit, dwi am roi cynnig ar syniadau i chi, ond rhaid cofio, dwi'n nyrd, fellu ella fydda nhw'n rubish:

Ella fysa crysau-t hefo thema barddoniaeth poblogaidd/ clasurol arni yn dda e.e. Gwyn ei byd yr adar gwylltion... a ryw llun o adar arni wrth lan y mor?

Neu jest rhai hefo bywyd natur arnynt e.e adar, hefo enw cymraeg yr aderyn rhywle arni? (gweler merchandise RSPB).

ahem, yn bersonol fellu, gan gofio bo fi mewn andros o niche fama, fyswn i wrth fy modd hefo ryw fath o crys t gwyddonias :wps: ee Y blaned Dirion, a llun planed arni....neu Bodio'r Bydysawd, ag ella llun B5 neu yr international space station neu rhywbeth...ond dwi'n meddwl fysa ne issues copi reit.

Fysa unrhyw icons cymraeg yn mynd yn dda dwin meddwl - pobl o c'mon midfield, pobl y cwm, Mr Urdd (fysa gwneud rhyw deal hefo nhw i greu crysiau bach ciwt hefo logo urdd arni) fel stwff fruit of the loom.

Pob lwc i chi, neis i weld pobl yn rhoi cynnig arni, cofia postio am sut mae hi'n mynd. Wnai postio eto os dwi'n meddwl am syniadau eraill :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan SerenSiwenna » Mer 01 Tach 2006 10:21 am

Sali Mali! :rolio:

Hefyd, Miffi, Dai Tecsas...
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Crysau-T Cymraeg

Postiogan Chwadan » Mer 01 Tach 2006 1:18 pm

-Pa fath o logos neu slogans fyddai'n gwneud i chi gysidro prynu crys?
Rhai arti/rhyfedd tebyg i rai Threadless.com

-Faint fyddech chi'n fodlon talu am grys-T o safon da?
Dibynnu faint dwi'n licio'r logo. £15?

-Fyddechi'n cysidro prynu crysa Cymraeg gan fusnes ifanc, ffresh?
Swn i'n cysidro lot o betha. Ond mi fasa prynu yn dibynnu ar safon y crysa-T a'r logos.

-Ydi logos gwladgarol yn syniad da? e.e logos eraill wedi ei newid i gael y geiriau Cymru/Cymraeg ynddyn nhw?
Zzzzz. Nadi.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Positif80 » Mer 01 Tach 2006 2:17 pm

-Pa fath o logos neu slogans fyddai'n gwneud i chi gysidro prynu crys?

-Rhai sy'n cerdded y ffin rhwng chwaeth a di-chwaeth "Jesus loves you...everyone else thinks you're a ****"; "Fred West: Patios, Gardens, Herbacious Borders".
-Crysau sy'n cyfeirio at sioeau teledu "cylt" Gymraeg.
-Unrhyw beth gyda hiwmor neu logo trawiadiol.

beth am wasnaeth "creu" crys-t, lle gellid gofyn am slogan eich hun.

-Faint fyddech chi'n fodlon talu am grys-T o safon da?

£15

-Fyddechi'n cysidro prynu crysa Cymraeg gan fusnes ifanc, ffresh?

Faswn. Sbo.

-Ydi logos gwladgarol yn syniad da? e.e logos eraill wedi ei newid i gael y geiriau Cymru/Cymraeg ynddyn nhw?

Yndyn, oni bai eu bod nhw'n gawslyd.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Llio Mad » Sul 12 Tach 2006 9:09 pm

Diolch. Mi fydd y cwmni'n gwerthu crysa-T yn Llanast Llanrwst am y tro cyntaf. Pris y crys fydd £10, a'r design yw'r geiriau cymru, Lloegr a Llanrwst. Meddyliwch am hwn fel y test-run.

Gwyliwch allan amdanyn nhw!
GOLCHI MURSEN?! Dydi Mursen ddim yn hoffi cael ei golchi, siwr iawn! Pwy erioed glywodd am rywun yn golchi cath? Ffwrdd â thi, y gwalch bach drwg!-Angharad Tomos (Rwdlan)
Rhithffurf defnyddiwr
Llio Mad
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 109
Ymunwyd: Sul 02 Hyd 2005 1:44 pm
Lleoliad: Byd Bach Fy Hun


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron