-Pa fath o logos neu slogans fyddai'n gwneud i chi gysidro prynu crys?
-Faint fyddech chi'n fodlon talu am grys-T o safon da?
-Fyddechi'n cysidro prynu crysa Cymraeg gan fusnes ifanc, ffresh?
-Ydi logos gwladgarol yn syniad da? e.e logos eraill wedi ei newid i gael y geiriau Cymru/Cymraeg ynddyn nhw?
Fyswn i wrth fy modd yn prynnu crys T Cymraeg...dwi hefo un coch hefo "sai'n angel ond dwi'n siarad iaith y nefoedd" arni a dwi'n credu mai fi oedd un or rhai cyntaf i neidio ar y syniad o crysau T maes-e (lyfli gyda llaw) mae'n neis gael rhywbeth mwy personol i'w wisgo. Cytuno a Rhys, £25 am un o safon da, dwi'n credu fod hynnan going rate, ddim bo fi'n gwbod dim am gwerthu crysiau T de!
Dwi'n hoff iawn o crysau t bach hwyl fel hyn - pan symes i i Lerpwl o ni wrth fy modd hefo top shop gan bo nhw'n gwerthu crysiau t bach gan cwmni or enw 'hussy' a oedd gan llyniau 'stills' wedi ei cymryd gan the diwcs of hazard a starski and hutch (yr un gwreiddiol). Fysa crysiau or safon yna yn gwerthu'n dda dwi'n credu gan fod lot o detail arnyn nhw, e.e hefo sin o c'mon midfield arnyn nhw a ryw quote bach digri ar y cefn...ella rhywbeth i wneud hefo hitatchi (gweler yr ehedyn am hoff stori ar c'mon midfield)
Mae crysiau T Fossil hefyd o safon da - defnydd da, dyna un or pethau pwysicaf...fod on fittion dda ac yn hongian yn dda ar y corff. Mae gen i un pinc poeth sy hefo llun o cyfrifiadur ar y blaen sy'n deud "Talk nerdy to me".
Hoffi'r rhai da chi di gwneud yn barod, yn enwedig yr un ala coca cola.
Reit, dwi am roi cynnig ar syniadau i chi, ond rhaid cofio, dwi'n nyrd, fellu ella fydda nhw'n rubish:
Ella fysa crysau-t hefo thema barddoniaeth poblogaidd/ clasurol arni yn dda e.e. Gwyn ei byd yr adar gwylltion... a ryw llun o adar arni wrth lan y mor?
Neu jest rhai hefo bywyd natur arnynt e.e adar, hefo enw cymraeg yr aderyn rhywle arni? (gweler merchandise RSPB).
ahem, yn bersonol fellu, gan gofio bo fi mewn andros o niche fama, fyswn i wrth fy modd hefo ryw fath o crys t gwyddonias
ee Y blaned Dirion, a llun planed arni....neu Bodio'r Bydysawd, ag ella llun B5 neu yr international space station neu rhywbeth...ond dwi'n meddwl fysa ne issues copi reit.
Fysa unrhyw icons cymraeg yn mynd yn dda dwin meddwl - pobl o c'mon midfield, pobl y cwm, Mr Urdd (fysa gwneud rhyw deal hefo nhw i greu crysiau bach ciwt hefo logo urdd arni) fel stwff fruit of the loom.
Pob lwc i chi, neis i weld pobl yn rhoi cynnig arni, cofia postio am sut mae hi'n mynd. Wnai postio eto os dwi'n meddwl am syniadau eraill