'Cadw Cwmni' - Cyfeiriadur Busnesau Cymraeg

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'Cadw Cwmni' - Cyfeiriadur Busnesau Cymraeg

Postiogan Rhys » Gwe 17 Tach 2006 3:08 pm

..Cymraeg eu hiaith hynny yw

Dwi newydd ddechrau prosiect 'bach' o'r enw Cadw Cwmni.

Fel rhan o'm gwaith dwi'n casglu rhestr o fusnesau yn sir Caerffili ble gallwch dderbyn gwasaneth yn Gymraeg. Bydd hyn wedyn yn cael ei gyhoeddi fel cyfeiriadur ar ffurf papur ac yna ar wefan Menter Iaith Caerffili.

Ond..., liciwn i weld rhywbeth cenedlaethol (fel yr hen Cwlwm Busnes), ond sydd ddim yn dibynnol a'r gyllid cyhoeddus, rhywbeth mwy organig ble gall unrhywun gyfrannu, boed chi'n unigolyn, gweithio i Fenter iaith, aelod o CYIG, Cymuned, Merched y Wawr neu'n berchen busnes eich hun.

Yn amlwg bydda i'n cyfrannu at y siroedd dwi'n wybod fwyaf amdanynt, felly byddwn yn gwerthfawrogi help gan gyfrannwyr lleol o ardaloedd eraill o Gymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Llefenni » Gwe 17 Tach 2006 3:30 pm

Dwidi gyrru linc mlaen i llwythi o bobl - sut mae cyfrannu cwmni? Falle gallwch chi roi linc ar y dudalen flaen? :syniad:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Rhys » Gwe 17 Tach 2006 4:40 pm

Diolch yn fawr am ddanfon y ddolen ymlaen. Os ydi rhywun eisiau cyfrannu at y wefan, rhaid i mi ddanfon 'gwahoddiad' at eich cyfeiriad e-bost yn gyntaf (tydi PBwiki ddim yn caniatau i bobl addasu heb fewngofnodi).
Fel mae'n dweud yn y golofn dde ar y dudalen flaen \":winc:\" : a ddywedodd:Os hoffech ychwanegu manylion eich bunses chi/busnes rhywun arall, neu hoffech i mi wneud, e-bostiwch fi ar:

rhys MALWEN jobscymraeg.com
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 17 Tach 2006 5:19 pm

Ma'n siwr dy fod ti'n ymwybodol o Gyfeirlyfr Menter Caerdydd yn barod?
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Llun 20 Tach 2006 11:13 am

Ydw, a mae'n un da, dyna pam dwi'n dwy'n y syniad ar gyfer Menter Caerffili, ond gyda mân newidiadau fel cynnwys busnesau lleol sy'n ymroi i ddefnyddio'r Gymraeg a sy'n gwerthu nwyddau Cymraeg fel Y Cymro, Golwg, matiau drws 'Coreso' ayyb.

Ond beth sy'n digwydd os yw Menter Caerdydd yn newid eu blaenoriaethau a does dim cyllid i gynnal a diweddaru'r cyfeirlyfr?

Mantais Cadw Cwmni fydd y gall unrhywun gyfrannu ato.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 20 Tach 2006 4:05 pm

:) Dim beirniadu o'n i - jysd trio helpu (a gneud yn siwr dy fod ti'n ymwybodol ohono).

Ma'r syniad yn un da - mi fysa'n neis gwybod lle sy'n cadw papurau/cylchgronau Cymraeg. Mi brynish i'r Cymro a Golwg yn WHS unwaith, ond heb allu ffeindio dim Cymraeg yno ers hynny (haws ffeindio Wrdw... :rolio: ). Mae'n wir ei bod yn amlwg fod y Siopau Cymraeg yn cadw'r rhain, ond bob tro dwi'di trio Siop y Felin, dwi rhy hwyr, a mae nhw i gyd wedi hen fynd!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Llun 20 Tach 2006 4:35 pm

Yn sicr mae eisiau hyrwyddo siopau ble gelli'r prynnu papurau a chylchgronnau Cymraeg (hyd yn oed blydi Tesco's ac Asda), ond liciwn i gadw'r cyfeiriadur yma i lefydd ble ceir gwasaneth Cymraeg go iawn.

Er... gelli'r ychwanegu adran sy'n rhestru ble mae modd prynnu'r papurau a chylchgronau os mai dyna mae pobl eisiau.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron