..Cymraeg eu hiaith hynny yw
Dwi newydd ddechrau prosiect 'bach' o'r enw Cadw Cwmni.
Fel rhan o'm gwaith dwi'n casglu rhestr o fusnesau yn sir Caerffili ble gallwch dderbyn gwasaneth yn Gymraeg. Bydd hyn wedyn yn cael ei gyhoeddi fel cyfeiriadur ar ffurf papur ac yna ar wefan Menter Iaith Caerffili.
Ond..., liciwn i weld rhywbeth cenedlaethol (fel yr hen Cwlwm Busnes), ond sydd ddim yn dibynnol a'r gyllid cyhoeddus, rhywbeth mwy organig ble gall unrhywun gyfrannu, boed chi'n unigolyn, gweithio i Fenter iaith, aelod o CYIG, Cymuned, Merched y Wawr neu'n berchen busnes eich hun.
Yn amlwg bydda i'n cyfrannu at y siroedd dwi'n wybod fwyaf amdanynt, felly byddwn yn gwerthfawrogi help gan gyfrannwyr lleol o ardaloedd eraill o Gymru.