fyswn i'n sicr yn dilyn cwrs sefydledig. nes i a chriw o fyfyrwyr drio dysgu cymraeg i fyfyrwyr gwpl o flynyddoedd yn ôl off top ein pen fwy neu lai, a nethon ni fethu'n rhacs, yn anffodus. dwi'n cymryd eich bod chi i gyd yn ddibrofiad yn y maes, fel roedden ni. os felly, y perygl ydy neidio o un lle i'r llall heb wybod be i ddysgu nesa, ac yn y pen draw methu dysgu lot o ddim byd.
wlpan ydy'r ffordd i fynd i chi, siwr o fod. mae'n canolbwyntio ar ddysgu siarad ac arfer yr iaith. dyna sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf gan y darparwyr addysg swyddogol. ond dwi ddim yn siwr os oes modd actually prynu "copi" o wlpan i'w ddefnyddio. dwi'n credu bod y canolfannau dysgu cymraeg rhanbarthol yn llunio eu rhai eu hunain efo gwahaniaethau rhanbarthol. bydd hwnna'n gwestiwn arall -- pa dafodiaith rydych chi'n mynd i ddysgu iddyn nhw!
falle bydde un o'r canolfannau yma yn fodlon i chi brynu copi ganddyn nhw. os felly, grêt, achos maen nhw mor strwythuredig, wedi eu rhannu yn unedau o awr/dwyawr yr un. allwch chi ddim methu!
(ymwadiad: nid yw hyn o reidrwydd yn wir).
dyma restr o fanylion cyswllt y chwech canolfan - tria nhw, ac esbonia eich bod chi'n gwirfoddoli yng nghaergrawnt!
mae'r wlpan ar ei fwyaf llwyddiannus o gael ei ddysgu yn aml iawn. dwi'n nabod pobl sy'n cael 6 awr yr wythnos, ac maen nhw'n dysgu yn
syfrdanol o gyflym. yn amlwg allwch chi ddim neud hynny, ond os ydy'r darpar ddysgwyr yn awyddus, ac oes digon ohonoch chi gymry cymraeg, ystyriwch roi gwersi ddwywaith yr wythnos yn hytrach nag unwaith - mi wneith hynny fyd o wahaniaeth dwi'n meddwl.
da iawn ti am feddwl gwneud y fath beth! pob lwc!