Tudalen 1 o 1

Gwersi Cymraeg yn Lloegr

PostioPostiwyd: Gwe 05 Ion 2007 11:18 pm
gan Tegwared ap Seion
Dwi'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn gwneud tipyn efo'r Gymdeithas Gymreig yno. Ddechrau'r flwyddyn gofynnodd dipyn o bobl os oeddem yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg, a tydan ni ddim, ond mi wnes addo edrych fewn i'r mater i weld beth fysa ni'n gallu ei wneud.

Byrdwn fy neges: Os mai'r opsiwn gorau fydd i griw ohonom ddod at ein gilydd i ddysgu'r iaith, beth fyddai'r ffordd orau o wneud hynny? Fyddai'n well dilyn cwrs sefydledig, ynteu mynd ar ein liwt ein hunain?

Dwi'n gwybod bod dosbarth o tua 25 yn Durham, gyda myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn eu dysgu o'u pen a'u pastwn eu hunan, efo set bingo ac ati. 'Da chi'n meddwl y byddai'n well i ni ddilyn rhywbeth fel hwn? Neu gysylltu efo rhywun fel Wlpan am gyngor?

Byddwn yn ddiolchgar iawn am unryw gymorth/gyngor :)

PostioPostiwyd: Sad 06 Ion 2007 12:09 am
gan gronw
fyswn i'n sicr yn dilyn cwrs sefydledig. nes i a chriw o fyfyrwyr drio dysgu cymraeg i fyfyrwyr gwpl o flynyddoedd yn ôl off top ein pen fwy neu lai, a nethon ni fethu'n rhacs, yn anffodus. dwi'n cymryd eich bod chi i gyd yn ddibrofiad yn y maes, fel roedden ni. os felly, y perygl ydy neidio o un lle i'r llall heb wybod be i ddysgu nesa, ac yn y pen draw methu dysgu lot o ddim byd.

wlpan ydy'r ffordd i fynd i chi, siwr o fod. mae'n canolbwyntio ar ddysgu siarad ac arfer yr iaith. dyna sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf gan y darparwyr addysg swyddogol. ond dwi ddim yn siwr os oes modd actually prynu "copi" o wlpan i'w ddefnyddio. dwi'n credu bod y canolfannau dysgu cymraeg rhanbarthol yn llunio eu rhai eu hunain efo gwahaniaethau rhanbarthol. bydd hwnna'n gwestiwn arall -- pa dafodiaith rydych chi'n mynd i ddysgu iddyn nhw!

falle bydde un o'r canolfannau yma yn fodlon i chi brynu copi ganddyn nhw. os felly, grêt, achos maen nhw mor strwythuredig, wedi eu rhannu yn unedau o awr/dwyawr yr un. allwch chi ddim methu! (ymwadiad: nid yw hyn o reidrwydd yn wir). dyma restr o fanylion cyswllt y chwech canolfan - tria nhw, ac esbonia eich bod chi'n gwirfoddoli yng nghaergrawnt!

mae'r wlpan ar ei fwyaf llwyddiannus o gael ei ddysgu yn aml iawn. dwi'n nabod pobl sy'n cael 6 awr yr wythnos, ac maen nhw'n dysgu yn syfrdanol o gyflym. yn amlwg allwch chi ddim neud hynny, ond os ydy'r darpar ddysgwyr yn awyddus, ac oes digon ohonoch chi gymry cymraeg, ystyriwch roi gwersi ddwywaith yr wythnos yn hytrach nag unwaith - mi wneith hynny fyd o wahaniaeth dwi'n meddwl.

da iawn ti am feddwl gwneud y fath beth! pob lwc! :D

PostioPostiwyd: Llun 08 Ion 2007 12:21 pm
gan Tegwared ap Seion
Gwych, diolch gronw! Ai i'r afael â un o'r canolfannau hynny felly. Heb drio dynnu'r lle ar fy mhen... Tafodiaith yn bwynt arall...oes gan unrhyw un syniad beth fasa "ora"?! :?

PostioPostiwyd: Llun 08 Ion 2007 12:47 pm
gan garynysmon
Acen Sir Fon :winc:

PostioPostiwyd: Llun 08 Ion 2007 12:53 pm
gan Rhys
Byddwn i'n cytuno mae Wlpan fyddai orau gan ei fod yn canolbwyntio ar Gymraeg llafar. Os nad yw'n bosib cael gafer ar y cynnwys cwrs Wlpan, yna Cwrs Mynediad yw'r llyfryn gan CBAC, ond mae dau fersiwn (de a gogledd) i'w dewis rhyngddynt. Mae'r llyfr yn costio tua £15-20 dwi'n meddwl, ond wedi ei rannu i wersi. Chi hefyd yn gallu prynnu pecyn ymaerferon i gyd-fynd am rhyw £3 ble gall myfyrwyr wneud tasgau arnynt (fel bod ti ddim yn gorfod meddwl gormod am osod gwaith)

Opsiwn arall fyddai arfraffu rhestrau geirfa e.e. o wefan gywch Learn Welsh y BBC, dwi'n siwr byddwch yn cale lot hwyl jyst yn ymarfer gieiriau a brawddegau syml. Pob lwc

PostioPostiwyd: Llun 08 Ion 2007 5:42 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Ma' gin i gopi o'r llyfr a'r 6 CD Wlpan sydd ddim yn cael ei ddefnyddio (pump o'r CDs yn dal yn eu plastig...)
Gei di nhw am bris cystadleuol annwyl frawd :winc:

PostioPostiwyd: Llun 08 Ion 2007 5:53 pm
gan Fflamingo gwyrdd
O.N. Y cwrs Gogleddol sgin i...

Ac ar y pwnc hwnnw, ydw i'n iawn i gymryd yn ganiataol nad Cymry di-Gymraeg sydd â diddordeb yn y Gymraeg yng Nghaergrawnt?
Os felly, am wn i mai tafodiaeth yr athro/awon fyddai'n fwy naturiol i'w ddysgu iddyn nhw, ar y sail mai efo chi y byddan nhw'n cael ymarfer.
Os mai Cymry di-Gymraeg sydd yn y 'dosbarth' yna efallai y byddai'n neis cymryd eu hardal i ystyriaeth.
Os mai Gogs ydi'r athrawon i gyd, a fod Hwntws di-Gymraeg o fewn y dosbarth, efallai byddai'n bosib dysgu Cymraeg semi-Safonol(?) o lyfr gogleddol Wlpan, ond ar yr un pryd eu gwneud yn ymwybodol o'r geiriau gwahanol ayyb pan fo'n rhesymol i wneud hynny.

Dwi'n ymwybodol y bydd rhai Maeswyr yn anghytuno â'r uchod, ond hei, gwell Cymraeg ardal arall na dim Cymraeg o gwbl, 'nde?

PostioPostiwyd: Llun 08 Ion 2007 7:24 pm
gan Tegwared ap Seion
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Ma' gin i gopi o'r llyfr a'r 6 CD Wlpan sydd ddim yn cael ei ddefnyddio (pump o'r CDs yn dal yn eu plastig...)
Gei di nhw am bris cystadleuol annwyl frawd :winc:


Gwych, diolch yn fawr! :D

Cymysgedd go iawn o bobl, rhai'n ogleddwyr, rhai'n hwntws a rhai sydd ddim yn Gymry o gwbwl. :? :)

PostioPostiwyd: Llun 08 Ion 2007 7:29 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Mashwr mai dysgu o'r llyfr Gogleddol fysa orau (gan mai Gog wyt ti, ac mai llyfr Gogleddol sydd i'w gael) ond gwneud yn siwr dy/eich b/fod yn hyblyg ac ystyriol o'r Hwntws wrth wneud!

Gei di nhw Pasg, ia?

Re: Gwersi Cymraeg yn Lloegr

PostioPostiwyd: Maw 17 Meh 2008 7:55 am
gan Jon Sais
Mae'na gryn dipyn o bobl sy'n dysgu'r Gymraeg yn Lloegr. Dw i wedi dod ar draws dosbarthiadau yn Llundain, Birmingham, Stockport, Derby a Belper i enwi dim ond rhai. Ein grŵp ni'n cwrdd bob bore dydd Mawrth yn Derby, gwelir http://www.derbywelshlearnerscircle.fusiveweb.co.uk/ . Hefyd ydyn ni'n trefnu Ysgol Undydd Cymraeg Derby unwaith y flwyddyn. Mae hynny yn gweithio da iawn bob tro ac yn tynnu 40 -50 o bobl. Dan ni hefyd wedi cysylltu efo Cymdeithasau Cymraeg yr ardal sef Cymdeithas Cymry Nottingham a Chymdeithas Cymraeg Derby. Bellach dan ni wedi dechrau Blog i gofnodi rhai o ddigwyddiadau Cymraeg eu hiaith. Gwelir http://cymryycanolbarth.blogspot.com/ mae hi'n bwysig trefnu gyfleodd i ddysgwyr i ymarfer efo Cymry Cymraeg. Pob lwc efo'r dosbarthiadau Cymraeg.
Jon Sais :D