Tudalen 1 o 1

Y Gair "Cyfrifiadur"

PostioPostiwyd: Sul 25 Tach 2007 11:49 pm
gan Llywelyn Foel
Mi driais i ofyn am darddiad "cyfrifiadur" mewn grwp ICT ar maes-e, wrach mai yma fasa orau.

Rhywun yn gwybod pa bryd gafodd y gair ei fathu?

Braidd yn 'dated' bellach (fatha'r Saesneg 'computer') gan nad oes gynno fo ddiawl o ddim i wneud efo cyfri; mwy i'w wneud efo lluniau, sain a ffilm bellach!

Ydwi'n iawn yn deud fod y gair yn mynd nol i tua 1980? MEU Cymru wrach?

PostioPostiwyd: Llun 26 Tach 2007 12:02 am
gan ffwrchamotobeics
Wyt - Computer=cyfrifiadur. Tua amser IBM Home Computer c.1980. Peiriant sy'n gorfod rhifo''n ddeuol, megis 1 a 0. Ma hyn dal yn wir, er fod lot mwy o 1 a 0's mwyach.
Ddim yn siwr pwy nath fathu'r enw'n Gymraeg chwaith ond mi glywais taw'r darlleddwr a'r gwyddonydd Dr. Vaugan Hughes fu'n gyfrifol.

PostioPostiwyd: Llun 26 Tach 2007 9:05 am
gan sian
Dydi "cyfrifiadur" ddim yn argraffiad cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru. Ydi'r ail argraffiad wedi cyrraedd mor bell? Rhywun yn gwybod?

PostioPostiwyd: Llun 26 Tach 2007 11:17 am
gan SerenSiwenna
Dwi'n credu fod un o fy athrawon o ysgol gynradd wedi bod yn rhan or broses o lunio'r gair - roedd hi'n gweithio yn ysgol bodhyfryd yn Wrecsam...dwi'n cofio fy nhad yn deud rhywbeth amdanno - ella yn coleg caetrefle oedd y grwp?

PostioPostiwyd: Llun 26 Tach 2007 5:44 pm
gan 7ennyn
Dyma dudalen o eiriadur Daniel Silvan Evans, 1853. Tydi o ddim yn fathiad diweddar felly! Rhyfedd nad ydi o'n ymddangos yn argraffiad cyntaf GPC!

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 11:30 am
gan Llywelyn Foel
Diolch i bawb; mae na ambell syniad / sgwarnog yn fama i mi ymchwilio ymhellach.

7ennyn: diddorol iawn, ond rhaid cofio nad 'computer' ydy'r ystyr yn y geiriadur, ond teclyn i gyfri (sef cyfrifiannell erbyn heddiw) neu berson sy'n cyfri (cyfrifydd heddiw). Felly rhaid diystyru geiriadur DSE.

Gweithio ar A + B mae GPC ar hyn o bryd.


Mae 'Cyfrifiadur' (a'n dehongliad cyfoes o'r gair???) yn 'Termau Ffiseg a Mathemateg 1965:

computer (electronic, cyfrifiadur (electronig, digidiol,
cydweddol) digital, analogous)


Ai dyma'r cynharaf, felly?

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 11:55 am
gan Macsen
Cyfri yw gwaith cyfrifiadur fel o'r blaen. Jesd eu bod nhw'n cyfri'n llawer cyflymach erbyn hyn. Falle mae lluosiadur dyle fo fod.

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 5:02 pm
gan 7ennyn
Dwi'n meddwl fod dy gysyniad di o gyfrifiadur yn rong, Llywelyn. Fel ddudodd Macsen, y cwbl ydyn nhw, yn sylfaenol, ydi teclynnau sydd yn gwneud syms - cannoedd o filiynnau o syms pob eiliad. Felly mae'r hen air 'cyfrifiadur' yn golygu yn union yr un peth heddiw ag yr oedd o 155 o flynyddoedd yn ol.

'Swn i'n deud mai 'cyfrifiadur electronig' neu 'cyfrifiadur digidol' ydi'r termau cywir am y do-whacky modern wyt ti'n cyfeirio ato.

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 8:24 pm
gan huwwaters
Mae cyfrifiaduron wedi bod mewn bodolaeth ers miloedd o flynyddoedd. Yr oedd y Groegiaid a'r Rhufeiniaid efo rhai syml, ond rhai mecanyddol oeddynt.

Cyflymder prosesydd yw rhywbeth fel 2.4GHz, sy'n golygu ei fod yn gwneud 2,400,000,000 cyfrifiad yr eiliad. Cyfrifiadau binary.