Tudalen 1 o 1

Cwestiynnau am ddefnydd y Gymraeg yn Ruthin 1939

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 3:38 pm
gan SerenSiwenna
Mae un o ffrindiau fi yn ysgrifennu nofel am efaciwis a chafodd ei hanfon o Lerpwl i Ruthin yn 1939. Roedd hi'n gofyn i mi faint o Gymraeg fyddai pobl wedi ei siarad ar yr adeg yma - fysa pobl wedi bod yn iaith gyntaf Gymraeg? Bysa efaciwee wedi gorfod ei ddysgu fe neu wedi ei ddysgu fe o rhan arfer?

Ond o ni ddim yn gwybod, felly sidro o ni os oedd yna trigolion Ruthin yma yn rhywle fysa'n gwybod?

Hefyd, oedd yna ysgolion Gymraeg yn bod yn Ruthin ar yr adeg yma, neu oedd e dal yn cael ei gwahardd?

:P

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 3:46 pm
gan SerenSiwenna
Hefyd, oes yna tafodiaith pennodol i Ruthin?

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 3:53 pm
gan huwwaters
Ddim yn bendant ond dwi'n meddwl i mi glwed am rai efaciwis ag aeth i Rhuthun a wedyn troi yn Gymry trwyadl.

Byswn i'n disgwyl i canran siaradwyr Cymraeg Rhuthun wedi bod yn uchel iawn yr adeg ene.

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 7:38 pm
gan Mali
'Roeddwn i'n Rhuthun yn ddiweddar , ac mi glywais i fwy o Gymraeg ar y stryd yno na wnês i'n Gaerdydd !
Ella fasa'n syniad i dy ffrind di gysylltu efo'r Archifdyyno.

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 9:07 am
gan Mr Gasyth
Mali a ddywedodd:'Roeddwn i'n Rhuthun yn ddiweddar , ac mi glywais i fwy o Gymraeg ar y stryd yno na wnês i'n Gaerdydd !
Ella fasa'n syniad i dy ffrind di gysylltu efo'r Archifdyyno.


Ma Rhuthun yn dref reit Gymraeig o hyd - yn sicir yn fw Cymreig na Chaerdydd! Baswn i'n tybio ei bod yn fwy Cymraeg ym 1939 nag ydi Caernarfon neu'r Bala heddiw, ond sgen i'm prawf o hynny.

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 1:43 pm
gan SerenSiwenna
Mali a ddywedodd:'Roeddwn i'n Rhuthun yn ddiweddar , ac mi glywais i fwy o Gymraeg ar y stryd yno na wnês i'n Gaerdydd !
Ella fasa'n syniad i dy ffrind di gysylltu efo'r Archifdyyno.


o! diolch, wnai yry'r linc iddi :D

Ia, dwi di ffeindio Ruthin yn reit Gymraeg pan dwi di bod ene a mae acen weddol gru gan y Cymru Cymraeg 'na yndoes...

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 3:10 pm
gan Madrwyddygryf
Mae mam yn dod o Ruthun, arfer byw tu allan i’r dref ac wedi mynd i ysgol na’.
Di mam erioed wedi son am straeon o efaciwis yn Rhuthun, cafodd ei geni ar ddiwedd y rhyfel felly siŵr bod llawer ohonynt wedi mynd yn ôl erbyn 1945. Ond os yw o’n helpu, roedd carchar Rhuthun yn cael ei defnyddio fel gwersyll carcharorion rhyfel. Roedd hi’n cofio milwyr o’r Eidal yn dod i weithio ar fferm ei theulu.

Re:

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 1:57 pm
gan SerenSiwenna
Madrwyddygryf a ddywedodd:Mae mam yn dod o Ruthun, arfer byw tu allan i’r dref ac wedi mynd i ysgol na’.
Di mam erioed wedi son am straeon o efaciwis yn Rhuthun, cafodd ei geni ar ddiwedd y rhyfel felly siŵr bod llawer ohonynt wedi mynd yn ôl erbyn 1945. Ond os yw o’n helpu, roedd carchar Rhuthun yn cael ei defnyddio fel gwersyll carcharorion rhyfel. Roedd hi’n cofio milwyr o’r Eidal yn dod i weithio ar fferm ei theulu.


Diddorol iawn - wnai rhannu'r gwybodaeth yma hefo hi - diolch yn fawr :winc:

Re: Cwestiynnau am ddefnydd y Gymraeg yn Ruthin 1939

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 4:52 pm
gan Mali
Mi fasa Hafina Clwyd yn medru rhoi lot o wybodaeth i dy ffrind di dwi'n siwr. Dwi'n meddwl 'i bod hi'n dal i fyw ochrau Rhuthun .....

Re: Cwestiynnau am ddefnydd y Gymraeg yn Ruthin 1939

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 3:21 pm
gan SerenSiwenna
Mali a ddywedodd:Mi fasa Hafina Clwyd yn medru rhoi lot o wybodaeth i dy ffrind di dwi'n siwr. Dwi'n meddwl 'i bod hi'n dal i fyw ochrau Rhuthun .....


Wow! diddorol iawn, dwi di anfon y linc mlaen i fy ffrind, diolch yn fawr am hynny :winc: