Tudalen 1 o 1

'It's like bombing the Louvre' - Dyfodol Ieithoedd bach

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 1:39 pm
gan Madrwyddygryf
Erthygl diddorol heddiw am dyfodol ieithoedd lleiafrifol yn yr Grauniard.

Re: 'It's like bombing the Louvre' - Dyfodol Ieithoedd bach

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 9:12 am
gan HuwJones
Mae Mark Abley - awdur yr erthygl 'Bombing the Louvre' wedi sgwennu llyfr reit dda: "Spoken Here: Travels Among Threatened Languages" ...yn swnio'n reit boring a nurdie ond mae gannddo ffordd reit dda o sgwennu, gan neud pwnc sych, academaidd yn ddifyr iawn. Yn y llyfr mae Mark Abley yn son am Gymru a'r Gymraeg. Danfonais ebost ato a ges i ateb cyfeillgar iawn yn ol yn syth, mae'n troi allan ei fod yn byw yn Canada ond mae ganddo gysylltiadau teuluol Cymreig. Edrychaf ymlaen at ei lyfr nesaf sydd i'w cyhoeddi yn y haf.

Roedd darllen llyfr gyda'r teitl "Travels Among Threatened Languages" oedd yn son am y pentre ble dwi'n byw, (Mae hyd yn oed disgrifiiad o'r stryd ble dwi'n byw) yn tipyn o fraw. Yn bendant wnaeth darllen ei lyfr yn gwneud imi dynnu fy mys allan ac gwneud mwy o ymdrech i gefnogi pethe Cymraeg.

Re: 'It's like bombing the Louvre' - Dyfodol Ieithoedd bach

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 3:53 pm
gan Gwenci Ddrwg
Ia darllenais i'r un llyfr hefyd, diddorol iawn i ddeud y lleiaf amdano fo ond fel arfer trist go iawn. Dechreuodd o fy niddordeb mewn ieithoedd anaml a bellach dwi'n reit nerdy amdanon nhw. Sut bynnag dan yr erthygl mae Cernyweg yn cael ei chrybwyll fel enghraifft o iaith heb siaradwyr modern. Gwall ydy hynny, os dwi'n meddwl yn cywir heddiw. :ofn: Mae 'na hyd yn oed pobl sy'n siarad yr iaith fel mamiaith ar ôl fy ffynonellau. :ofn:

Re: 'It's like bombing the Louvre' - Dyfodol Ieithoedd bach

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 6:16 pm
gan Madrwyddygryf
Fe hoffwn ddarllen y llyfr yna.

Mae beth roedd yr erthygl yn son am yn gwneud i mi feddwl am ddadl dwi’n wrthi cael gyda ryw flogwr ynglyn a’r iaith Gymraeg. Mae’n dweud buasai’n well i wared a’n hiaith ac, wrth gwrs, dwi’n dadlau yn groes. Mae’n dorcalonnus wrth darllen ei ddadl, yr hen beth yw e ar ddeud y gwir sydd wedi cael ei ddweud can-mil o weithiau o’r blaen.Ond mae’n son am gael gweld bod nifer o ieithoedd ‘ardal’ yn cael ‘phase-out’.

Dwi yn credu weithiau bod na lawer o bobl yn meddwl mai ieithoedd yw ryw casgliad o eiriau ac nid canrifoedd o draddodiad a diwylliant sydd wedi’w gasglu gan grwp o bobl.

Mae na groeso i chi ddod mewn i’r ddadl a helpu ymateb i’r sinach ma’ . Onni hoff iawn o fo’n gorffen ei ddadl gyda:

"I predict in a few years time you will give up this Welsh advocacy, and accept that people will consolidate and speak more popular languages like Chinese, English, French etc."

Re: 'It's like bombing the Louvre' - Dyfodol Ieithoedd bach

PostioPostiwyd: Sul 10 Chw 2008 11:28 am
gan Seonaidh/Sioni
Wedi edrych ar y stwff. Pwy ydy'r twpsyn 'ma? Tybed mai droch isean neu meaban ydy o. Wedi rhoi rhywbeth ar ei flog gwrth-Gàidhlig iddo feddwl amdani.

Re: 'It's like bombing the Louvre' - Dyfodol Ieithoedd bach

PostioPostiwyd: Sul 10 Chw 2008 1:03 pm
gan Madrwyddygryf
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Wedi edrych ar y stwff. Pwy ydy'r twpsyn 'ma? Tybed mai droch isean neu meaban ydy o. Wedi rhoi rhywbeth ar ei flog gwrth-Gàidhlig iddo feddwl amdani.


Gwerth chweil. Wel dwi'm yn gwybod pwy uffach ydio ond dwi'n tybio nad oes lawer yn ei ddarllen chwaith. Ond mae'n bwysig ein bod yn ymateb erbyn unrhyw agwedd gwrth-iaith Gymraeg.

Re: 'It's like bombing the Louvre' - Dyfodol Ieithoedd bach

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 5:21 am
gan Gwenci Ddrwg
Dwi yn credu weithiau bod na lawer o bobl yn meddwl mai ieithoedd yw ryw casgliad o eiriau ac nid canrifoedd o draddodiad a diwylliant sydd wedi’w gasglu gan grwp o bobl.

Dwedwn i fod hynny'n arfer gwir ym mhob man, o leiaf yn y fan hon lle does dim unrhyw syniad o hunaniaith leol. Dydy mewnfudwyr (yn ogystal â llawer o bobl sy wedi bod yma ers blynyddoedd i ddeud y gwir ofnadwy) ddim yn rhoi crap am diwylliant neu hanes Canada, oes rhaid iddynt dysgu Ffrangeg? Nac oes, felly di nhw ddim ceisio.

Yuck dwi wedi blino, dwi'n mynd i ail-feddwl y neges hwn wedyn...dwi'm yn gallu meddwl ar y funud, hyd yn oed yn Saesneg neu Ffrangeg! :|