gan HuwJones » Llun 07 Ebr 2008 2:36 pm
Mae hanes am CyIG yn tueddol o ganolbwyntio ar yr 'oes aur' adeg yn y 60au a 70au Ond paid anghofio am Toni Schiavone oedd yn gadeirydd yn yr 80au. Roedd Toni yn bwysig iawn yn cefnogi'r sin cerddorol newydd oedd yn datblygu ar y pryd. (Cyrff, Datblygu, Ffa Coffi Pawb etc..). Trefnodd Toni llwyth o gigs i annog bandiau bach newydd.
Ar ddechrau'r 80au roedd CyIG yn eitha wan ac roedd y cyfryngau Cymraeg yn wneud eu gorau i sgwennu off y Gymdeithas a dweud oedd hi wedi ffislo allan bellach. Dwi'n cofio sawl rhaglen ar S4C ar y testun "Mae Cymdeithas yr Iaith wedi chwythu ei phlwg". Ond roedd Toni yn un o'r criw newydd ddaeth a syniadau ffres i CyIG ac erbyn diwedd yr 80au / dechrau'r 90au roedd CyIG wedi denu nifer sylweddol o bobl ifanc newydd ac mor dynamic ac erioed yn yr 'oes aur'.
Roedd gwleidyddiaeth yn yr 80au yn gas a chwerw iawn, heb y naïfrwydd rhamantus o'r 60au. Toni oedd yn bwysig yn cyfeirio CyIG i fod yn rhan o 'ffrynt eang' gyda mudiadau o phobloedd eraill oedd yn trio gwrthwynebu Thatcheraeth. Diolch i'r 'pontio' yma rhwng CyIG/Plaid etc a'r traddodiad Llafur/Undebau - tra'n cydweithio gyda'r mudiad heddwch, gwrth Apartheid ac yn bennaf oll yn ystod streic y glowyr - fe ddechreuodd lawer yn y Blaid Lafur tro i ffwrdd o'u paranoia gwrth-Gymreig a dechrau cefnogi datganoli o'r diwedd
Hefyd fe ddaeth yr ymgyrchoedd i fod yn llawer fwy soffistigedig na jyst tro cael pethe syml fel arwyddion ffyrdd. Un o bethe dwi'n cofio'n arbennig oedd Toni a Ffred (Ffransis) lansio'r syniad o gael cynghorau i gyhoeddi "Cynllun Iaith" i ddatgan yn ddu a gwyn beth roeddent i fod i wneud. Doedd neb byth wedi clywed am y fath peth o'r flaen. Bellach mae holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod cyhoeddi Cynlluniau Iaith. (Mae syniad o Cynllun iaith hefyd wedi cael ei mabwysiadu yn lot o lefydd tu allan i Gymru). Dyma un o fuddugoliaethau'r mwya'r CyIG, ond gan ei fod yn beth llawer llai gweladwy nag arwyddion a sianel deledu, dyw CyIG na Toni, Ffred, Karl Davies, Alun Llwyd etc.. byth wedi cael dim clod.