Tudalen 1 o 1

pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 12:45 pm
gan Lali-pwpw
jyst meddwl sa rwyn n gallu hepu fi. dwi di dewis siarad am hanes y Gymdeithas fel pwnc llafar ar gyfer arholiad Tgau Cymraeg.....yr unig broblem dwin gal ydi meddwl am y ffigyrau fwya dylanwadol yn hanes y Gymdeithas. gyna fi ambell syniad a ma mam di helpu ryw fymryn, ond dwi jst ddim isio mynd fewn ir arholiad, mwydro am rwyn a odd o ddim mor bwysig a hynny. sa unrhyw syniada yn werthfawr iawn. taaa.

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 12:57 pm
gan Tegwared ap Seion
...pa gymdeithas?!

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 12:58 pm
gan Lali-pwpw
yr iaith de.

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 1:14 pm
gan Tegwared ap Seion
diolch :?

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 1:43 pm
gan Cymro13
Llyfr Dylan Phillips sen i'n awgrymu -

O ran ffigyrau hanes y Gymdeithas (ddim mewn unrhyw drefn penodol)

John Daves (Hanes Cymru)
Geraint Twm
Gareth Meils
Ffred Ffransis
Dafydd Iwan
Arfon Gwilym
Hefin Elis
Cynog Dafis
Angharad Tomos
Dafydd Morgan Lewis
Sel Jones

jest off top fy mhen

ma llawer mwy

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 4:41 pm
gan Rhys
Dim lot ar Wicipedia am Gymdeithas yr Iaith, ond mae sôn am rhwyun o'r enw Owain Owain, nad oeddwn i wedi clywed amdano sy'n swnio'n foi reit dylwanwadol.

http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:C ... th_Gymraeg

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 4:57 pm
gan Kez

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 6:19 pm
gan Hedd Gwynfor
Y 2 lyfr mwyaf defnyddiol i ti bydd:

Gwilym Tudur, Wyt Ti'n Cofio? Chwarter Canrif o Frwydr Yr Iaith, Talybont, 1989.

Dylan Phillips, Trwy ddulliau chwyldro...? Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1962-1992 (Llandysul, 1998).

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 10:10 pm
gan Lali-pwpw
ooo diolch.=] mar ddau lyfr yna gyna fi. dwi bach n ddiog ddo a di gadal hi tan y funud ola braidd i fynd i bori trwyr llyfra. ddesh i ar draws owain owain hefyd. a ma na bach or cefndir yn llyfr y ganrif. diolch beth bynnag, mi chwiliai am y rheina i gyd rwan. =]

Re: pobl bwysig yn hanes y Gymdeithas

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 2:36 pm
gan HuwJones
Mae hanes am CyIG yn tueddol o ganolbwyntio ar yr 'oes aur' adeg yn y 60au a 70au Ond paid anghofio am Toni Schiavone oedd yn gadeirydd yn yr 80au. Roedd Toni yn bwysig iawn yn cefnogi'r sin cerddorol newydd oedd yn datblygu ar y pryd. (Cyrff, Datblygu, Ffa Coffi Pawb etc..). Trefnodd Toni llwyth o gigs i annog bandiau bach newydd.

Ar ddechrau'r 80au roedd CyIG yn eitha wan ac roedd y cyfryngau Cymraeg yn wneud eu gorau i sgwennu off y Gymdeithas a dweud oedd hi wedi ffislo allan bellach. Dwi'n cofio sawl rhaglen ar S4C ar y testun "Mae Cymdeithas yr Iaith wedi chwythu ei phlwg". Ond roedd Toni yn un o'r criw newydd ddaeth a syniadau ffres i CyIG ac erbyn diwedd yr 80au / dechrau'r 90au roedd CyIG wedi denu nifer sylweddol o bobl ifanc newydd ac mor dynamic ac erioed yn yr 'oes aur'.

Roedd gwleidyddiaeth yn yr 80au yn gas a chwerw iawn, heb y naïfrwydd rhamantus o'r 60au. Toni oedd yn bwysig yn cyfeirio CyIG i fod yn rhan o 'ffrynt eang' gyda mudiadau o phobloedd eraill oedd yn trio gwrthwynebu Thatcheraeth. Diolch i'r 'pontio' yma rhwng CyIG/Plaid etc a'r traddodiad Llafur/Undebau - tra'n cydweithio gyda'r mudiad heddwch, gwrth Apartheid ac yn bennaf oll yn ystod streic y glowyr - fe ddechreuodd lawer yn y Blaid Lafur tro i ffwrdd o'u paranoia gwrth-Gymreig a dechrau cefnogi datganoli o'r diwedd

Hefyd fe ddaeth yr ymgyrchoedd i fod yn llawer fwy soffistigedig na jyst tro cael pethe syml fel arwyddion ffyrdd. Un o bethe dwi'n cofio'n arbennig oedd Toni a Ffred (Ffransis) lansio'r syniad o gael cynghorau i gyhoeddi "Cynllun Iaith" i ddatgan yn ddu a gwyn beth roeddent i fod i wneud. Doedd neb byth wedi clywed am y fath peth o'r flaen. Bellach mae holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod cyhoeddi Cynlluniau Iaith. (Mae syniad o Cynllun iaith hefyd wedi cael ei mabwysiadu yn lot o lefydd tu allan i Gymru). Dyma un o fuddugoliaethau'r mwya'r CyIG, ond gan ei fod yn beth llawer llai gweladwy nag arwyddion a sianel deledu, dyw CyIG na Toni, Ffred, Karl Davies, Alun Llwyd etc.. byth wedi cael dim clod.