Oes gen rywun syniad o ble mae'r gair "ffeind" yn tarddu? Dy' o ddim yn edrych fel gair Celteg (neu Frythoneg beth bynnag), ond mae'n anodd meddwl am iaith efo gair tebyg (efo synnwyr tebyg) y gallai'r Gymraeg wedi ei benthyg.
Unrhyw syniadau?
Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw
garik a ddywedodd:Oes gen rywun syniad o ble mae'r gair "ffeind" yn tarddu? Dy' o ddim yn edrych fel gair Celteg (neu Frythoneg beth bynnag), ond mae'n anodd meddwl am iaith efo gair tebyg (efo synnwyr tebyg) y gallai'r Gymraeg wedi ei benthyg.
Unrhyw syniadau?
sian a ddywedodd:Am "blasus" fydden ni'n ei ddefnyddio fe. Ystyr "bwyd ffein" yn wahanol i "fine food"!
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Atgofion... pan oedd mab i'n mynd i'r ysgol, Miss Brown oedd ei athrawes gyntaf. Ac wrth ddod adre, basai o'n dweud mai "Miss Brownd" oedd enw'r athrawes. Felly, fine - ffeind - hawdd i'w weld!
Wrth gwrs bod e', dyle ti wbod bod safon Sisneg gwarthus gyda ti 'chan. Ma bron popeth ti'n gweud yn bwps 'chan.Cardi Bach a ddywedodd:Pobol ffeind.
ond wy wedi bod yn gweud e'n Sisneg fyd: 'their very find people'. Odi hwnna'n rong te?
Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai