Tudalen 1 o 1

O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 11:08 am
gan garik
Oes gen rywun syniad o ble mae'r gair "ffeind" yn tarddu? Dy' o ddim yn edrych fel gair Celteg (neu Frythoneg beth bynnag), ond mae'n anodd meddwl am iaith efo gair tebyg (efo synnwyr tebyg) y gallai'r Gymraeg wedi ei benthyg.

Unrhyw syniadau?

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 11:19 am
gan sian
garik a ddywedodd:Oes gen rywun syniad o ble mae'r gair "ffeind" yn tarddu? Dy' o ddim yn edrych fel gair Celteg (neu Frythoneg beth bynnag), ond mae'n anodd meddwl am iaith efo gair tebyg (efo synnwyr tebyg) y gallai'r Gymraeg wedi ei benthyg.

Unrhyw syniadau?

Yn ôl GPC, benthyciad o'r Saesneg "fine" yw e. Maen nhw'n meddwl efallai mai dylanwad y Saesneg "kind" sy'n cyfrif am y "d" ar y diwedd.

Mae'n gallu golygu braf, teg, hardd, lluniaidd, gwych, hyfryd, esmwyth, clên, caredig, hynaws, coeth, cain, blasus.

Am "blasus" fydden ni'n ei ddefnyddio fe. Ystyr "bwyd ffein" yn wahanol i "fine food"!

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 11:19 am
gan Geraint
Dio'm yn dod o Saesneg - Fine?

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 11:33 am
gan Dwlwen
sian a ddywedodd:Am "blasus" fydden ni'n ei ddefnyddio fe. Ystyr "bwyd ffein" yn wahanol i "fine food"!

Bydden i'n gweud "bwyd ffein" hefyd, ac yn meddwl 'blasus' - ond wy'n i ddefnyddio fe wrth sôn am "bobl ffeind" 'fyd, gan feddwl pobl 'caredeig'.

Wastad 'di cymryd taw benthyciad o 'fine' odd e.

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 12:04 pm
gan Cardi Bach
Pobol ffeind.
ond wy wedi bod yn gweud e'n Sisneg fyd: 'their very find people'. Odi hwnna'n rong te? :wps:

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 8:23 pm
gan Seonaidh/Sioni
Atgofion... pan oedd mab i'n mynd i'r ysgol, Miss Brown oedd ei athrawes gyntaf. Ac wrth ddod adre, basai o'n dweud mai "Miss Brownd" oedd enw'r athrawes. Felly, fine - ffeind - hawdd i'w weld!

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Mer 14 Mai 2008 10:21 am
gan Dafydd Iwanynyglaw
Dim ond yn ystyr "caredig" dwi di clwad y gair - e.e. "Tydi deffro cymedrolwr o'i gwsg trwy gychwyn edefyn newydd ddim yn ffeind iawn." :winc:

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Mer 14 Mai 2008 10:26 am
gan sian
Ie, bwyd ffein a phobol ffeind.

Ffeind a difyr ydyw gweled,
Migldi magldi, hei, now, now.
Drws yr efail yn agored,
Migldi magldi, hei, now, now.
Ar go' bach a'i wyneb purddu,
Migldi magldi, hei, now, now.
Yn yr efail yn prysur chwythu,
Migldi magldi, hei, now, now.

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 1:19 am
gan Hen Rech Flin
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Atgofion... pan oedd mab i'n mynd i'r ysgol, Miss Brown oedd ei athrawes gyntaf. Ac wrth ddod adre, basai o'n dweud mai "Miss Brownd" oedd enw'r athrawes. Felly, fine - ffeind - hawdd i'w weld!


Ar newyddion S4C y noson o'r blaen roedd hogyn ysgol yn son am gwrdd ag aelod o'r teulu brenhinol:

Priss Williams
:D

Re: O ble daeth "ffeind"?

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 1:27 pm
gan ceribethlem
Cardi Bach a ddywedodd:Pobol ffeind.
ond wy wedi bod yn gweud e'n Sisneg fyd: 'their very find people'. Odi hwnna'n rong te? :wps:
Wrth gwrs bod e', dyle ti wbod bod safon Sisneg gwarthus gyda ti 'chan. Ma bron popeth ti'n gweud yn bwps 'chan.