Sori am atgyfodi hen hen edefyn, ond 'update' i chi o ran sefyllfa'r Gymraeg yng Nghroesoswallt...
...rydym newydd agor Siop Gymraeg yn y farchnad ac mae'r bobl leol yn gefnogol iawn, gan groesawu'r cyfle i brynu llyfrau, cardiau ac ati Cymraeg. Rydym hefyd yn hysbysebu cyrsiau Cymraeg lleol (gan gynnwys cwrs i ddechreuwyr yn y Coleg yng Nghroesoswallt.
Menter newydd yw hon a'n nod yw hybu'r iaith a'r diwylliant Cymreig lleol ymhellach.
Cofiwch alw heibio os byddwch yn yr ardal unrhyw bryd.
(Dwi ddim yn meddwl fy mod i'n cael hysbyseb, ond Siop Cwlwm yw enw'r siop - chwiliwch ar google os am fwy o wybodaeth)