jammyjames60 a ddywedodd:Buasai'n well i arian fyddai'n gael ei roi i sefydlu Menter Iaith Lloegr gael ei wario ar sefydlu Mentrau iaith unigol i ardaloedd Torfan, Blaenau Gwent a Mynwy lle mae cyfleodd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn brin iawn yn enwedig am i'r arian gael ei rannu i dri.
Gan ddweud hynny dwi'n siwr y gellir dadlau bod mwy o gyfle i ddefnyddio Cymraeg yng Nghroesoswallt na rhannau helaeth o de-ddwyrain Cymru!
A oes rhannau o Loegr wrth y ffin lle mae'r Gymraeg yn parhau'n gryf ymhlith y trigolion lleol? Faint o Gymraeg sydd i'w gael ar y gororau ochr Lloegr tybed?