Menter Iaith i Loegr?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Menter Iaith i Loegr?

Postiogan Jon Sais » Maw 17 Meh 2008 8:03 am

Yn ôl adroddiad gan fwrdd yr Iaith Cymraeg maen nhw amcangyfrif bod dros 100,000 o bobl sy'n medru'r Gymraeg yn byw yn Lloegr. Mae'na Ysgol Gynradd yn Llundain ac ambell ddosbarth Cymraeg yma ac acw. Beth am sefydlu rhywbeth strwythurol er mwyn hybu'r iaith ymhlith plant y Cymry alltud? Beth am Fenter Iaith Lloegr?
Jon Sais :D
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan Llefenni » Maw 17 Meh 2008 8:41 am

Syniad da! Ond tybed pa mor yarferol byddai hyn? Mae Lloegr yn le eitha mawr! :?:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan jammyjames60 » Maw 17 Meh 2008 12:18 pm

Buasai hynny'n wych ond efallai y gall hynny gael ei ariannu gan awdurdodau Lloegr ac nid gan Gymru.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan Jon Sais » Maw 17 Meh 2008 12:29 pm

Ydy, mae Lloegr yn lle eithaf mawr, ond mae'na nifer fawr o bobl yn wneud pethau dros yr hen iaith yno. Gwelir y dolenni ar safle we Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby er enghraifft. (http://www.derbywelshlearnerscircle.fusiveweb.co.uk/). Mae'na Glwb Clebran yn Bradford, mae'na Glwb Dysgu’r Gymraeg yn y Chilterns, dw i'n credu bod o leiaf 18 o ddosbarthiadau a grwpiau wrthi ar hyn o bryd heb help o gwbl. Siŵr o fod bydd cynnydd yn y nifer sy'n dysgu os oes help ar gael. Mae'na ddigon o Gymry Cymraeg yn Lloegr i helpu hefyd, (gwelir http://cymryycanolbarth.blogspot.com/). Hoffwn i weld dipyn bach mwy o gydweithio!
Hwyl
Jon Sais
:D
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan Jon Sais » Maw 17 Meh 2008 12:35 pm

JammyJames, Iawn, ydyn ni i gyd gwybod bod arian yn brin, ond mae'r Cynulliad yn ariannu help i'r Wladfa ac i'r Ysgol Gynradd yn Llundain yn barod. Mi fydd Menter Iaith Lloegr o'r help i rieni Cymraeg eu hiaith sy'n byw yn Lloegr sy'n trio magu eu plant yn yr iaith. Mae angen cefnogaeth arnyn nhw.
Hwyl
Jon Sais :D
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan jammyjames60 » Maw 17 Meh 2008 3:06 pm

Jon Sais, mi wn bod 'na gryn dipyn o bobol yn Lloegr sydd yn siarad ac yn magu'u plant nhw drwy gyfrwng y Gymraeg (yn enwedig llefydd megis Croesoswallt) ond mi fuasai well o lawer gen i weld arian cyhoeddus sydd wedi'i roi i'r neilltu i hybu'r iaith gael ei roi mewn i ardaloedd yng Nghymru ac nid dros Glawdd Offa neu unrhyw gyffuniad arall.

Buasai'n well i arian fyddai'n gael ei roi i sefydlu Menter Iaith Lloegr gael ei wario ar sefydlu Mentrau iaith unigol i ardaloedd Torfan, Blaenau Gwent a Mynwy lle mae cyfleodd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn brin iawn yn enwedig am i'r arian gael ei rannu i dri.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan Jon Sais » Maw 17 Meh 2008 3:46 pm

JammyJames60, wrth gwrs mae'na angen buddsoddi mewn ardaloedd fel Torfan, Blaenau Gwent a Mynwy, dw i ddim yn ddadl yn erbyn hynny o gwbl, ond dw i wedi gweld cymaint o'r Gymry alltud sy wedi cael eu gorfodi (wel bron iawn) i adael Cymru er mwyn chwilio am waith fan hyn pan oedden nhw ifanc iawn. Yn y pen draw mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n colli gafael ar yr iaith. Mae rhan fwyaf ohonyn nhw'n methu magu eu plant nhw yn yr iaith. Dyna'r pwnt, mae'r genhedlaeth nesa wedi trwy yn Saeson. Wedyn ar ôl iddyn nhw ymddeol ti'n gweld nhw trio dysgu'r iaith mewn dosbarthiadau Cymraeg. Lawer gwell yn fy marn i petai nhw dim wedi colli'r iaith yn y lle cyntaf.
Mae pawb dw i'n nabod fan hyn yn gefnogol iawn i'r gwaith y Mentrau Iaith yng Nghymru. Yr ydw i wedi gweithio i Fenter Iaith yng Nghymru fy hunan, felly dw i'n gwerthfawrogi natur a safon o'r gwaith sy'n cael ei wneud. Dim ond dweud yr ydw i fod angen cefnogaeth i Gymry Lloegr hefyd. Does dim angen pres mawr fan hyn, efallai dim ond digon i gyflogi Swyddog i gydlynu pethau, gwneud gwaith hysbysebu ac i drefnu Gwersi Blasu / Ysgolion Undydd ayyb.
Cofion gorau
Jon Sais :)
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan LowRob » Llun 30 Meh 2008 2:48 pm

Fel Cymraes Cymraeg sy'n byw yn nhref Croesoswallt, ac yn byw bron iawn pob rhan o'm mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg, buaswn i'n gefnogol iawn i'r syniad o gael Menter Iaith ar gyfer Lloegr. A dweud y gwir, buaswn i wrth fy modd yn gweithio i'r Fenter hon!!
LowRob
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Maw 13 Ebr 2004 3:39 pm
Lleoliad: Croesoswallt / Wrecsam

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan y mab afradlon » Maw 23 Medi 2008 8:48 pm

Mae'r Gymraeg ar restr y Cenhedloedd Unedig o ieithoedd lleiafrifol sy dan fygythiad dybryd yn Lloegr. Wy'n credu felly bod rheidrwydd cyfreithiol ar lywodraeth Loegr i ddarparu amodau positif i'w gwarchod a'i hybu. A weud y gwir, nag wy'n gwbod os oes unrhyw fath o waith yn digwydd i warchod y Gymraeg yn ardal Croesoswallt, er mod i'n gwbod bod peth o wefannau rhai o gynghorau'r gororau ar gael yn Gymraeg.

Tybed beth yw'r sefyllfa, LowRob?
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Menter Iaith i Loegr?

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 24 Medi 2008 6:01 am

Pa rhestr yw hyn de? Oes linc gen ti?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron