JammyJames60, wrth gwrs mae'na angen buddsoddi mewn ardaloedd fel Torfan, Blaenau Gwent a Mynwy, dw i ddim yn ddadl yn erbyn hynny o gwbl, ond dw i wedi gweld cymaint o'r Gymry alltud sy wedi cael eu gorfodi (wel bron iawn) i adael Cymru er mwyn chwilio am waith fan hyn pan oedden nhw ifanc iawn. Yn y pen draw mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n colli gafael ar yr iaith. Mae rhan fwyaf ohonyn nhw'n methu magu eu plant nhw yn yr iaith. Dyna'r pwnt, mae'r genhedlaeth nesa wedi trwy yn Saeson. Wedyn ar ôl iddyn nhw ymddeol ti'n gweld nhw trio dysgu'r iaith mewn dosbarthiadau Cymraeg. Lawer gwell yn fy marn i petai nhw dim wedi colli'r iaith yn y lle cyntaf.
Mae pawb dw i'n nabod fan hyn yn gefnogol iawn i'r gwaith y Mentrau Iaith yng Nghymru. Yr ydw i wedi gweithio i Fenter Iaith yng Nghymru fy hunan, felly dw i'n gwerthfawrogi natur a safon o'r gwaith sy'n cael ei wneud. Dim ond dweud yr ydw i fod angen cefnogaeth i Gymry Lloegr hefyd. Does dim angen pres mawr fan hyn, efallai dim ond digon i gyflogi Swyddog i gydlynu pethau, gwneud gwaith hysbysebu ac i drefnu Gwersi Blasu / Ysgolion Undydd ayyb.
Cofion gorau
Jon Sais