Mae trio deud fod yna sefyllfa diglossic rhwng Cymraeg llafar a Chymraeg llenyddol braidd yn ffals. Sna'm hanmner digon o ddefnydd o Gymraeg llenyddol i fod â'r un effaith dominant ag ma Saesneg yn gael, er fod posib dweud fod angen Cymraeg cywir ar gyfer cael rhai swyddi (ond nid Cymraeg llenyddol). Does na ddim yr un math o ffiltro lawr (benthyca geiriau a gramadeg) fel sydd yn digwydd o'r Saesneg, a Saesneg yw iaith awdurdod.
Dyw diffyg yn safon iaith ddim yn creu register arall o iaith chwaith, ma jest yn safon iaith gwael. Gall y plant yna gyfathrebu'n well yn y Saesneg fetiai, sy'n dangos taw Saesneg sydd a'r prestige uwch, hyd yn oed mewn ysgolion lle dysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly dwi'm yn credu gallwn ni ddweud fod na fwy na diglossia'n mynd mlaen ma.
[O.N. ga'i jest deud "bum-glossia", na fo, dwi'n hapus rwan
