Diglossia yn Gymraeg Fodern - dau fath o iaith

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Diglossia yn Gymraeg Fodern - dau fath o iaith

Postiogan Llefenni » Maw 23 Medi 2008 4:17 pm

Erthygl ddiddorol iawn dde's i ar ei thraws heddiw tra'n chwilio am wybodaeth ar yr iaith Roegaidd

http://en.wikipedia.org/wiki/Diglossia

Mae Diglossia yn derm i ddisgrifio dau fath o iaith yn cyd-fyw yn yr un gwlad - a dwi'n eithaf confinsd bod Cymru yn yr un sefyllfa yna rwan, gyda iaith y cyfieithwyr yn un eithaf diarth i lot o ddarllenwyr Cymraeg, a'r rheina yn rhai iaith gyntaf. Alle no fod gyda Tri-gloddia bron efo'r gwahaniaethau rhwng y gogledd a'r de? :winc:

Am yr iaith Roegaidd ar Wikipedia a ddywedodd:Until the 1970s, the Greek language distinguished between Dimotiki, the colloquial language which was used in everyday discussions and the extremely formal and archaic Katharevousa, which was used in more "educated" contexts, as in school, in court, in law texts etc. Extreme Katharevousa was, in fact, nearly pure Ancient Greek, and as such, nearly completely unintelligible to children and adults without higher education. This was the reason for the Greek language question, which was a heated dispute on which language form was to be the official language of the state. This dispute was eventually settled, and today the single language used in all texts is an educated variant of Dimotiki, which was enriched by many expressions from Katharevousa. This variant is commonly called Modern Greek.


Y sefyllfa ddim cweit mor wael gyda ni yma, ond yn wbeth i feddwl am falle?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Diglossia yn Gymraeg Fodern - dau fath o iaith

Postiogan huwwaters » Maw 23 Medi 2008 5:55 pm

Llefenni a ddywedodd:Erthygl ddiddorol iawn dde's i ar ei thraws heddiw tra'n chwilio am wybodaeth ar yr iaith Roegaidd

http://en.wikipedia.org/wiki/Diglossia

Mae Diglossia yn derm i ddisgrifio dau fath o iaith yn cyd-fyw yn yr un gwlad - a dwi'n eithaf confinsd bod Cymru yn yr un sefyllfa yna rwan, gyda iaith y cyfieithwyr yn un eithaf diarth i lot o ddarllenwyr Cymraeg, a'r rheina yn rhai iaith gyntaf. Alle no fod gyda Tri-gloddia bron efo'r gwahaniaethau rhwng y gogledd a'r de? :winc:

Am yr iaith Roegaidd ar Wikipedia a ddywedodd:Until the 1970s, the Greek language distinguished between Dimotiki, the colloquial language which was used in everyday discussions and the extremely formal and archaic Katharevousa, which was used in more "educated" contexts, as in school, in court, in law texts etc. Extreme Katharevousa was, in fact, nearly pure Ancient Greek, and as such, nearly completely unintelligible to children and adults without higher education. This was the reason for the Greek language question, which was a heated dispute on which language form was to be the official language of the state. This dispute was eventually settled, and today the single language used in all texts is an educated variant of Dimotiki, which was enriched by many expressions from Katharevousa. This variant is commonly called Modern Greek.


Y sefyllfa ddim cweit mor wael gyda ni yma, ond yn wbeth i feddwl am falle?


Ma hyn yn bwynt diddorol, ond dwi'n meddwl na'r broblem yng Nghymru yw yn syml, fod pobol ddim yn darllen digon o Gymraeg. Ma nhw'n gweld Saesneg mewn llyfrau, y cyfryngau, papurau newydd, yn ddyddiol ac yn ehangu eu geirfa. Tydi siaradwyr Cymraeg ddim yn cael y fath yma o exposure heb wneud ymdrech penodol ac yn defnyddio geiriau syml neu brawddegau geiriog i gyflawni ysytyr rhai geiriau nad ydynt yn ei wybod.

Gan fod cymaint yn yr un sefyllfa, mae'n cael ei ystyried yn dderbyniol fod yn anwybodus yn y modd yma, a'r bai yn cael ei wthio ar gyfieithwyr. Ydynt, mae cyfeithwyr efo diffyg synwyr cyffredin pan fo angen cyfeithiu termau technegol modern ambell i waith, ond bai'r darllenwr yw'r broblem y mwyafrif o'r amser.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Diglossia yn Gymraeg Fodern - dau fath o iaith

Postiogan sian » Maw 23 Medi 2008 6:37 pm

Llefenni a ddywedodd:Erthygl ddiddorol iawn dde's i ar ei thraws heddiw tra'n chwilio am wybodaeth ar yr iaith Roegaidd

http://en.wikipedia.org/wiki/Diglossia

Mae Diglossia yn derm i ddisgrifio dau fath o iaith yn cyd-fyw yn yr un gwlad - a dwi'n eithaf confinsd bod Cymru yn yr un sefyllfa yna rwan, gyda iaith y cyfieithwyr yn un eithaf diarth i lot o ddarllenwyr Cymraeg, a'r rheina yn rhai iaith gyntaf. Alle no fod gyda Tri-gloddia bron efo'r gwahaniaethau rhwng y gogledd a'r de? :winc:


Dw i'n gwybod bod 'na dipyn o gyfieithu sâl o gwmpas (gan fodau dynol, nid dim ond gan InterTrans etc) ond dw i ddim yn siwr ydi hyn yn hollol deg (meddai'r cyfieithydd). Fel mae huwwaters yn dweud, mae'n siwr bod Cymraeg graenus, academaidd - iaith Barn, Taliesin ac awduron ardderchog fel Dafydd Glyn Jones a rhai o'n nofelwyr mwyaf 'safonol' - yr un mor ddierth i'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg.

Mae'n edrych yn debyg bod yr ymdrech i greu Groeg Modern rywbeth yn debyg i'r ymgyrch Cymraeg Byw - rhywbeth i bontio'r iaith ysgrifenedig ffurfiol a'r iaith lafar - er budd dysgwyr gan fwyaf. Mae 'na bethau 'da wedi dod o'r ymdrechion hyn ond mae rhai pethau'n mynd dan fy nghroen yn ofnadwy o ran yr iaith a ddysgir i ddysgwyr. Maen nhw'n dysgu rhai pethau nad oes neb byth yn eu dweud na'u sgrifennu.
Ac wedyn wrth gwrs, mae gyda iaith pobl ifanc fel y soniodd Caryl Parry Jones ar Taro 9 rwythnos ddiwetha. Felly beryg fod gyda ni bedwar-glossia neu bum-glossia neu chwe-glossia hyd yn oed. Syndod bod neb yn deall ei gilydd o gwbl!!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Diglossia yn Gymraeg Fodern - dau fath o iaith

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 24 Medi 2008 2:20 pm

Diglossia Cymru, go-iawn, ydi Iaith Uwch = Saesneg; Iaith Is - Cymraeg. Yn arbennig yn y Gorllewin a'r Gogledd Orllewin.

Mae trio deud fod yna sefyllfa diglossic rhwng Cymraeg llafar a Chymraeg llenyddol braidd yn ffals. Sna'm hanmner digon o ddefnydd o Gymraeg llenyddol i fod â'r un effaith dominant ag ma Saesneg yn gael, er fod posib dweud fod angen Cymraeg cywir ar gyfer cael rhai swyddi (ond nid Cymraeg llenyddol). Does na ddim yr un math o ffiltro lawr (benthyca geiriau a gramadeg) fel sydd yn digwydd o'r Saesneg, a Saesneg yw iaith awdurdod.

Dyw diffyg yn safon iaith ddim yn creu register arall o iaith chwaith, ma jest yn safon iaith gwael. Gall y plant yna gyfathrebu'n well yn y Saesneg fetiai, sy'n dangos taw Saesneg sydd a'r prestige uwch, hyd yn oed mewn ysgolion lle dysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly dwi'm yn credu gallwn ni ddweud fod na fwy na diglossia'n mynd mlaen ma.

[O.N. ga'i jest deud "bum-glossia", na fo, dwi'n hapus rwan :) ]
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai