Tudalen 1 o 1

Bathodyn gallu siarad Cymraeg Bwrdd yr Iaith newydd

PostioPostiwyd: Gwe 26 Medi 2008 5:31 pm
gan Madrwyddygryf
Dyma bathodyn newydd gallu siarad Cymraeg gan y Bwrdd. Braidd yn fach...

Yn waeth na hynny mae nhw, yn eu doethineb, wedi penderfynu peidio cynyrchu bathodynnau ar gyfer dysgwyr.

Re: Bathodyn gallu siarad Cymraeg Bwrdd yr Iaith newydd

PostioPostiwyd: Gwe 26 Medi 2008 5:50 pm
gan osian
onid hwnna di'r bathodyn ers dipyn go lew?

Re: Bathodyn gallu siarad Cymraeg Bwrdd yr Iaith newydd

PostioPostiwyd: Gwe 26 Medi 2008 7:27 pm
gan Seonaidh/Sioni
Money fair knee! Dw i ddim yn cofio gweld y fath fathodyn o'r blaen. Ond, petaswn i'n ei weld, swn i ddim yn gwybod beth oedd o. Dylen nhw gynhyrchu bathodyn i'r rhai sy DDIM yn fodlon i siarad Cymraeg, efallai rhywbeth fel draig efo llinell goch trwyddi. Yna, heb fathodyn = rydw i'n fodlon i siarad Cymraeg.

Mae na fathodyn i ddisgwyr, hyd am wn i. Onid rhywbeth sgwar, mawr iawn, plastig gwyn efo llythyren D goch arno? Efallai 30cm X 30cm, gwell gwisgo dau ohonynt, un o flaen ac un tu ol. Ond efallai rw i'n meddwl am geir yma...

Re: Bathodyn gallu siarad Cymraeg Bwrdd yr Iaith newydd

PostioPostiwyd: Gwe 26 Medi 2008 7:38 pm
gan Madrwyddygryf
osian a ddywedodd:onid hwnna di'r bathodyn ers dipyn go lew?


Ia ti'n iawn ond mae'n llai.

Re: Bathodyn gallu siarad Cymraeg Bwrdd yr Iaith newydd

PostioPostiwyd: Gwe 26 Medi 2008 8:00 pm
gan Kez
Delwedd

Galsan nhw fod wedi cal rwpath gwell na hwn - ma'n disghwl fel colostomy bag!!

Ma' 'r peth yn frown hyd yn oed; be' ma' 'ny fod i feddwl - bo siarad Cymraeg yn shit !

Re: Bathodyn gallu siarad Cymraeg Bwrdd yr Iaith newydd

PostioPostiwyd: Gwe 26 Medi 2008 11:37 pm
gan Chickenfoot
Oes bathodyn i bobl sydd wedi gorfod ail-ddysgu'r iaith oherwydd magwraeth yn Lloegr, ac sydd wedyn yn cael eu galw'n "dysgwyr" gan pobl chaflyd sydd ond yn gallu siarad Wenglish? Dim bod fi'n teimlo'n cherw am y peth, de. :crechwen:

Re: Bathodyn gallu siarad Cymraeg Bwrdd yr Iaith newydd

PostioPostiwyd: Sad 27 Medi 2008 1:22 am
gan dawncyfarwydd
Wear this badge to show that you are happy to speak Welsh at work
...ond ddim yn dallt hyn:
Gwisgwch y bathodyn hwn i ddangos eich bod yn hapu i siarad Cymraeg wrth eich gwaith.

Re: Bathodyn gallu siarad Cymraeg Bwrdd yr Iaith newydd

PostioPostiwyd: Sad 27 Medi 2008 5:41 pm
gan Seonaidh/Sioni
dawncyfarwydd a ddywedodd:
Wear this badge to show that you are happy to speak Welsh at work
...ond ddim yn dallt hyn:
Gwisgwch y bathodyn hwn i ddangos eich bod yn hapu i siarad Cymraeg wrth eich gwaith.

A-ha - rw i'n gweld y broblem - mae Saesneg yn anghywir. Dylai fod "We're this badger two show that year hapy too speke well shat work"